Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda hyn, y gellid adeiladu capel mwy parhaus wedi hyny, a symud y capel haiarn i gychwyn achos drachefn mewn rhyw le arall. Cymeradwywyd iddynt agor subscription list yn Nhowyn, ac anog eu cyfeillion ymhob man i gyfranu tuag ati, i dreio dwyn hyn oddiamgylch." Yr oedd gan Mr. Newell, mae'n ymddangos, gynllun o gapel haiarn ellid ei bwrcasu am gan' punt, i gynwys cant o bobl. Nid oedd dim cymeradwyaeth, pa fodd bynag, na help i'w gael y pryd hyn, o Dowyn nac o un man arall, ond mewn geiriau yn unig.

Yn mis Chwefror, 1868, tra yn adeiladu masnachdy, penderfynodd Mr. Newell i'r ystafell uwchben fod yn Assembly Room, ac iddi fod at wasanaeth Achos Saesneg yn y dref. Pryd yr oedd eraill yn dadleu ac yn gwrthwynebu, dechreuodd ef weithio a dwyn y mater yn ffaith fyw o flaen llygaid y rhai a edrychent yn ysgafn ar yr anturiaeth. Apeliodd at yr eglwys Gymraeg i benodi personau i fyned i sefydlu yr achos. Yn methu gyda hwy, gwnaeth ail gais at y Cyfarfod Misol, cynulledig yn Seion, Mai 1868. Bu siarad maith yn y cyfarfod hwn, a chytunwyd i bleidio yr anturiaeth yn Nhowyn, ac i wneyd yr hyn a ellid gyda yr achos mewn manau eraill. Ar sail cymeradwyaeth y Cyfarfod Misol, ac yn llawn o ysbryd ffydd, anturiodd Mr. Newell ymlaen i gwblhau yr ystafell, a'r Sabbath, y 14eg o Fehefin, 1868, fe ddechreuwyd yr achos. Pregethodd y Parch. Evan Roberts, Cemaes, yn awr o'r Dyffryn, fore a hwyr, a chadwyd ysgol am ddau. Pregethodd yr ysgrifenydd yno y Sabbath canlynol. Felly aethpwyd ymlaen heb ballu mwy. Mae y paragraph canlynol a ysgrifenodd Mr. Evan Morgan Jones, ysgrifenydd yr eglwys, ymhen tair blynedd wedi hyn, yn werth ei gadw:—"Ymhen ychydig fisoedd, Mr. Newell yn teimlo ei unigrwydd—hyd yma nid oedd neb ond ef a'i deulu, ac un brawd wedi myned allan, neb. ond ei hunan i ddechreu a diweddu yr ysgol, na neb i ddechreu y canu ond yn achlysurol,—a daer ddymunodd drachefn, mewn cyfarfod eglwysig Cymraeg, am gynorthwy, nid arianol, ond ar