Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt hebgor ychydig nifer i fyned allan i gynorthwyo yn y gwaith, megis un i ddechreu y canu, ac eraill yn nygiad y moddion ymlaen. Parodd y cais hwn gryn ymdrafodaeth mewn pwyllgorau. Fe ddylid dweyd yma fod yr eglwys Gymraeg hefyd mewn ymdrafodaeth at alw bugail. Yn y pwyllgorau byn cyfodwyd y cwestiwn o barhad yr achos Saesneg neu beidio, ac os ystyrid hyny yn briodol, a gai yr achos ran o'r fugeiliaeth. Ond mor gryf ydoedd y teimlad yn erbyn y symudiad newydd fel y gomeddid rhan yn y fugeiliaeth, ac nid ymgymerid ychwaith ag appwyntiad personau o'r eglwys i fyned allan i gynorthwyo, ie, mwy na hyn, fe basiwyd penderfyniad fod i'r achos Saesneg gael ei dori i fyny am y gauaf, os nad o gwbl. Ni effeithiodd y gwrthwynebiad hwn i darfu nac i lwfrhau Mr. Newell, oblegid yr oedd yn hollol argyhoeddedig o'r priodoldeb a'r angenrheidrwydd o gael moddion gras i'r Saeson nid yn unig i'r ymwelwyr, ond i'r nifer oedd erbyn hyn wedi ymsefydlu yn y dref. Cynhyrfodd hyn gydymdeimlad dwfn mewn ychydig bersonau â'r symudiad, a bu yn foddion i bedwar o bobl ieuainc (tair merch ac un mab) fyned allan yn wirfoddol i gynorthwyo yn y gwaith." Gwir hefyd ydyw, i'r eglwys Gymraeg roddi cwbl ganiatad i'r brodyr a'r chwiorydd hyn a ymadawsant o'u gwirfodd.

Nid oedd ffydd y Cyfarfod Misol ychwaith ond digon cyfyng, oblegid addaw ei gefnogaeth yr oedd gan dybio na byddai yn ddoeth nac yn angenrheidiol cadw yr achos ymlaen yn y gauaf, o leiaf am rai blynyddoedd. Ond disgynodd yr ysbryd mor nerthol ar yr ychydig gyfeillion yn Nhowyn, nes iddynt deimlo eu bod wedi dechreu ar waith rhy dda i'w roddi i fyny na haf na gauaf. Aethpwyd ymlaen fel hyn hyd ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1869, ymhen chwe' mis ar ol dechreu yr achos yn ffurfiol, penodwyd pwyllgor i fyned i Dowyn i wneyd ymchwiliad i holl amgylchiadau yr achos. Cyflwynodd y pwyllgor eu hadroddiad i'r Cyfarfod Misol dilynol yn Aberdyfi, a chymeradwywyd ef. A ganlyn