Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrandawyr. Buwyd bedwar Sabbath yn y dechreu heb wneyd casgliad o gwbl. Yn awr, mae trysorfa yn agored yn agos i ddrws yr ystafell i'r neb a ewyllysio i fwrw ei roddion i mewn pan yn dyfod ynghyd i addoli unrhyw adeg; ac ar y cynllun hwn yn unig y gwneir pob casgliad. Yn misoedd yr haf, cyrhaeddai y casgliad uwchlaw 2p. y Sabbath; yn awr y mae, wrth reswm, yn llai, eto yn ganmoladwy a chalonogol iawn. Fel engraifft, yr oedd y swm y ddau Sabbath a enwyd yn Ionawr, ar ddiwedd y naill ddiwrnod yn 19s. 10c., ac ar ddiwedd y llall yn 18s. Derbyniwyd 5p., hefyd, yn rhoddion gan ewyllyswyr da at yr achos. Rhoddodd rhai pregethwyr eu gwasanaeth yn rhad; a rhai ran o'r tal yn ol; ac anfonodd cyfeillion eraill o bellder ffordd eu rhoddion, am eu bod yn teimlo yn gynes eu calon at yr anturiaeth, ac yn awyddus am ei gweled yn llwyddo. Trwy ffyddlondeb y gynulleidfa, a charedigrwydd cyfeillion eraill, cafwyd digon o arian i gynal yr achos o'r dechreu hyd yn awr, a gwelir oddiwrth y cyfrifon fod dros 1p. yn ngweddill mewn llaw. Ond gan fod y Cyfarfod Misol wedi addaw sefyll wrth gefn yr anturiaeth, yr oeddym fel pwyllgor yn cydweled y dylid rhoddi 10p, yn gynorthwy i'r cyfeillion am yr amser aeth heibio, i gyfarfod treuliadau mewn parotoi yr ystafell, goleuni, &c.

"Wedi cyfarfod yn Nhowyn, cawsom olwg fwy llewyrchus a gobeithiol ar yr achos nag oeddym yn ddisgwyl. Teimlwn oll yn rhwymedig ac yn dra diolchgar i Mr. Newell a'i gyd-weithwyr, am eu penderfyniad i anturio ymlaen gyda'r achos da hwn, gan hyderu eu bod yn gwneuthur ewyllys Pen Mawr yr eglwys, ac y bydd bendith a llwyddiant ar eu llafur. Dywedid nad oedd yn fuddiol rhoddi yr achos i fyny yn y gauaf, am fod cynifer yn dyfod i wrando, ac am eu bod yn dangos parodrwydd i gyfranu mor haelionus. Pe buasid yn gwneuthur felly buasai y Saeson sydd yn arosol yn y lle yn debyg o ameu cywirdeb yr amcan, trwy feddwl mai gwneuthur daioni i'r dieithriaid yn unig oedd mewn golwg. Yr un pryd,