Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn amlwg ddigon fod colled fawr i'r eglwys Gymraeg ar ol yr holl gyfeillion sydd wedi ei gadael. Eto, os o'r Arglwydd y mae y peth hwn, fe all ef yn hawdd wneyd y golled i fyny, a pheri llwyddiant ar y ddau achos. Yr oedd yn ddymuniad gan y cyfeillion perthynol i'r achos Saesneg gael rhyddid o hyn allan i gadw society, a gweinyddu yr ordinhadau yn eu plith eu hunain; ac wedi gwneyd ymchwiliad o'u tu hwy, ac o du yr eglwys yn y Gwalia, teimlem yn barod. iddynt gael eu dymuniad, gan eu bod hwy eu hunain yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb. Eu penderfyniad ydyw myned ymlaen gyda'r un zel a'r un ysbryd ffydd ag sydd wedi eu meddianu o'r dechreu, gan ddymuno i frodyr haelionus yn yr efengyl eu cynorthwyo; a chan obeithio y bydd i'r Hwn bia yr achos mawr ymhob iaith, ac ymhob lle, eu bendithio.—Ionawr 27, 1869.

"Aelodau y pwyllgor oeddynt.—y Parchn. D. Davies, Abermaw; D. Evans, M.A., Dolgellau; W. Davies, Llanegryn; R. Owen, M.A., Pennal; a F. Jones, Aberdyfi; Mri. G. Jones, Gwyddelfynydd, ac E. Griffith, Dolgellau.

"Wedi darllen yr adroddiad uchod yn y Cyfarfod Misol, pasiwyd penderfyniad iddynt gael rhyddid i fod yn eglwys ar eu penau eu hunain. Ac yn ol yr arfer ar y cyfryw achlysuron, penodwyd dau frawd, sef y Parchn. D. Evans, M.A., Dolgellau, ac R. Owen, M.A., Pennal, i fyned i Dowyn i hysbysu hyn i'r eglwys, ac i'w cydnabod yn ffurfiol fel eglwys yn ol eu dymuniad. Cymerodd cyfarfod i'r diben hwn le Chwefror 12fed. Daeth nifer lled dda o'r Saeson ynghyd, a lliaws o'r capel Cymraeg, ac amryw o drigolion y dref, fel, rhwng pawb, yr oedd y gynulleidfa yn weddol fawr, hyny ydyw, yr oedd yr ystafell yn rhwydd lawn. Yr oedd yr hen bererin, y Parch. Hugh Jones, yn bresenol, yn y corff ac yn yr ysbryd, a'r Parch. G. Evans, Cynfal, hefyd."

Un-ar-ddeg, fel y crybwyllwyd, oedd nifer yr eglwys pan ffurfiwyd hi gyntaf, ac nid oedd nifer yr holl aelodau a ddaethant