Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/261

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan o'r eglwys Gymraeg, yn ystod y pedair blynedd a haner cyntaf, ond pedwar ar ddeg. Yn Gorphenaf, 1869, ymsefydlodd y Parch. Owen Edwards, B.A, yn eu plith fel bugail.

Ymhen dwy flynedd wedi cychwyn yr achos, oherwydd fod yr ystafell lle y cynhelid moddion yn anghysurus o lawn yn yr haf, cymhellwyd y cyfeillion i gael capel. Ac yn mis Mai, 1870, cymeradwywyd y symudiad gan y Cyfarfod Misol. Sicrhawyd tir yn nghanol y dref, am ardreth flynyddol o £6, ac ar y 14eg o Dachwedd, 1871, agorwyd y capel. Mae yn deilwng o sylw ddarfod i'r symudiad gynyrchu bywyd newydd yn yr achos Cymraeg. Yn ebrwydd adeiladodd y Cymry gapel newydd hardd, ac o hyn ymlaen mae yr achos yn y ddwy eglwys wedi myned ar gynydd. Yr oedd y draul o adeiladu y capel Saesneg, ynghyd â'r llogau, a'r ardreth flynyddol, &c., erbyn diwedd 1872, yn £693 18s. 8c. Ac yn ystod yr amser yna, trwy gael help oddiwrth gyfeillion, ac oddiwrth y Gymdeithasfa, talodd yr eglwys £395 17s. 6c. Wedi hyny, aethpwyd i lawer o draul ychwanegol, trwy brynu y tir yn rhydd feddiant, a phethau eraill, ac er y cwbl, y mae y capel, a'r eiddo perthynol iddo er's blynyddoedd yn ddiddyled. Y nifer all eistedd ynddo yw 210. (Gwerth presenol yr eiddo £800). Rhoddodd y Cyfarfod Misol £10 flwyddyn am dair blynedd o leiaf tuag at gynorthwyo yr achos. Wedi hyny, cafodd yr eglwys help o drysorfa yr Achosion Saesneg; ymhen ychydig, daeth yn hunan-gynhaliol, a bu am flynyddoedd felly hyd eleni (1887).

Rhydd y paragraff canlynol wybodaeth am swyddogion cyntaf yr eglwys:—"Amlygodd Mr. Newell daer ddymuniad, o dro i dro, ar i'r eglwys ddewis ychwaneg o ddiaconiaid (hyd yma nid oedd neb ond ef yn unig yn y swydd). Yn Ionawr, 1872, cydsyniodd y frawdoliaeth, ac yn unol â'u cais, apwyntiwyd dau weinidog i ddyfod yma i'w cynorthwyo, pryd y bu dewisiad unfrydol a rheolaidd ar y personau canlynol i fod yn ddiaconiaid yr eglwys—Mr. Edwin Jones, Dr. J. F. Jones,