Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynal moddion rheolaidd yn Saesneg. (2). Fod y personau canlynol yn cael eu penodi i gynorthwyo a chymeryd gofal yr achos, Mri. Edward Bell, Edward Davies, a John Evans; Miss Ann Williams, Miss Margaret Jane Morris, Miss Lizzie Lewis." Aethpwyd a gwybodaeth o'r hyn a wnaed i'r Cyfarfod Misol dilynol yn Llanfrothen, Mai 2il, ac yno penderfynwyd fel y canlyn "Wedi cael adroddiad y brodyr a anfonasid gan Gyfarfod Misol Bontddu i Aberdyfi, i edrych i mewn i'r rhagolygon gyda golwg ar sefydlu Achos Saesneg yn y lle, penderfynwyd, ein bod fel Cyfarfod Misol yn anog swyddogion y lle i gychwyn yr achos yn ddioedi; ein bod yn ymrwymo i fod yn gynorthwy iddynt i'w gynal am flwyddyn; ein bod yn anog yr eglwysi i fod yn oddefgar tuag at y gweinidogion fydd yn galw eu cyhoeddiadau yn ol mewn trefn i'w gwasanaethu; a'n bod yn anfon cais i'r Gymdeithasfa am gynorthwy iddynt."

Cymerwyd yr Assembly Room, uwchben y Market Hall, am rent blynyddol i gario yr achos ymlaen, ac yno y mae yr holl foddion wedi eu cadw o hyny hyd yn awr. Dechreuwyd yr achos, a phregethwyd gyntaf yn y lle gan y Parch. J. H. Symond, Towyn, Mai 15, 1881. Penodwyd y Parch. R. H. Morgan, M.A., a J. H. Townley, Ysw., Towyn, gan y Cyfarfod Misol i sefydlu yr eglwys yn ffurfiol. Y noswaith yr ymwelwyd â'r lle gan y brodyr hyn, ymunodd y personau canlynol fel aelodau cyflawn a'r eglwys—Mr. Edward Bell, Mr. Edward Davies, Miss Ann Williams, Miss Margaret Jane Morris, Miss Lizzie Lewis, Mr. John Owen, Mrs. Anne Owen, Miss Annie Owen, Mr. Lazarus Jones, Mr. Henry Jones, Mrs. Margaret Evans, Mrs. Gittins, Mr. T. Cleg, Mrs. Cleg, Mrs. Mary Rees —15 o gyflawn aelodau, a 12 o blant. Derbyniwyd mewn casgliadau o'r diwrnod y dechreuwyd yr achos hyd ddiwedd yr un flwyddyn, sef o Mai 15 hyd Rhagfyr 25, 1881, 17p. 17s. 4 c. Taliadau 41p. 17s. Oc. Yr oedd yn bresenol o Saeson uniaith Mai 15, 1881, boreu 3; nos 17. Mai 22, boreu 11; nos 22. Rhagfyr 25, boreu 10; nos 14. Ymhen y flwyddyn,