Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/266

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VI

——————

YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD.—Y lleoedd y cychwynwyd hi gyntaf—Yr ysgolion dyddiol cylchynol—Llythyr John Jones, Penyparc—Yr Ysgol Sul am yr 50 mlynedd cyntaf—Llythyr L. W. at ysgol y Cwrt— Rheolau yr Ysgol Sabbathol—Adrodd pwnc—Y pedwar cyfnod o gynydd yr ysgol—Y Cyfarfodydd Ysgolion—Eu sefydliad— Eu newid o chwech-wythnosol i ddau-fisol—Cymanfa Ysgolion Bryncrug—Y gofalwyr am y Cyfarfodydd Ysgolion—Y Gymanfa Ysgolion—Pa bryd ei sefydlwyd yn rheolaidd—Y rhesymau dros ei lwyddiant—Swyddogion y Cyfarfodydd Ysgolion.

 YN dechreu y ganrif hon, sef cyn y flwyddyn 1800, ychydig oedd wedi cael ei wneyd gyda yr Ysgol Sul yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Yn wir, yr oedd 20 mlynedd o oes yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru wedi myned heibio cyn bod yma ond ychydig wedi ei wneyd gyda hi. Digon o reswm am hyn ydyw, nad oedd o fewn y Dosbarth ddim cymaint ag un eglwys wedi ei sefydlu yn 1785, blwyddyn dechreuad yr ysgol yn Nghymru. Yr ydys wedi crybwyll fod achos crefydd wedi ei wanychu, a chrefyddwyr eu digaloni yn fawr trwy yr erledigaeth fu yn yr ardaloedd hyn yn 1795, a diameu i'r helyntion hyny lesteirio y gwaith gyda yr Ysgol Sul. Yn y lleoedd canlynol y dechreuodd yr ysgol gyntaf:—Bwlch, Llwyngwril, Llanegryn, Abergynolwyn, Bryncrug. Mae yn sicr fod ysgolion yn y lleoedd hyn cyn y flwyddyn 1800; ac mae yn bur debyg fod un wedi ei dechreu yn Nhowyn, ac feallai yn Nghorris. Nid oes fawr ddim o'i hanes ar gael yn yr un o'r manau hyn yn flaenorol i'r dyddiad uchod; eto, yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith wedi ei ddechreu. Yr oedd William Hugh a Lewis Morris wedi bod yn pregethu yn y Dosbarth am ddeng mlynedd o'r ganrif ddiweddaf, a'r