Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddiol cylchynol a fu prif foddion cychwyniad yr Ysgol Sabbothol, canys heb y rhai cyntaf yr oedd sefyllfa y wlad yn gyfryw nas gallem gael athrawon i gario ymlaen y rhai olaf; heblaw hyny, cyfodwyd Ysgolion Sabbothol ymhob lle yr oedd ysgolion dyddiol wedi bod." Yr anhawsder yn y cymydogaethau rhwng y Ddwy Afon ydyw olrhain dechreuad y naill a'r llall o'r ysgolion hyn. Ond cyn belled ag y gellir eu holrhain, y mae y sylw hwn o eiddo yr anfarwol Mr. Charles yn hollol gywir mewn cysylltiad â'r rhan yma o'r wlad. Yr athrawon cyflogedig a fu ganddo yn cadw yr ysgolion cylchynol yma oeddynt, John Ellis, Abermaw; William Hugh, Llechwedd; John Jones, Penyparc; Lewis William, Llanfachreth. Enwir dau eraill a fu yn Nghorris, Robert Morgan, a Dafydd Rhisiart; ac un o'r enw William Owen a fu yn cadw ysgol yn Abergynolwyn. Ysgolion hollol rad oeddynt ar y cyntaf; Mr. Charles fyddai yn chwilio am yr ysgolfeistriaid, ac yn talu eu cyflogau iddynt. Amrywiai eu cyflogau o 12p. i 15p. y flwyddyn. Cyflog Lewis William ar y cyntaf oedd 4p. y flwyddyn, gan yr ystyrid ef y pryd hwnw y lleiaf cymwys i'r gwaith. Wedi i'r help a dderbyniai sylfaenydd yr ysgolion, o Loegr a manau eraill ddechreu pallu, ac i'r angen am danynt leihau mewn canlyniad i liosogrwydd yr Ysgolion Sabbothol, yr hyn a gymerodd le cyn hir ar ol 1800, ymunai yr ardaloedd â'u gilydd i gynal yr ysgol; a gelwid hi yn ysgol rad, ac yn ysgol gylchynol am ddeng mlynedd a mwy ar ol marw Mr. Charles. Dygid hi ymlaen hefyd yn ol yr un egwyddorion, a than lywodraeth ymddiriedolwyr. Cyfeiria Lewis William yn fynych yn ei bapurau at "ein hanrhydeddus ymddiriedolwyr," ac at "Mr. Davies, ein parchus ymwelydd." Yr ydym yn tybio mai Mr. Davies o Lanidloes oedd y gŵr hwn, gan y crybwyllir am dano felly yn rhai o'r llythyrau. Cyfeirir at yr un gŵr hefyd yn y llythyr canlynol, yr hwn a anfonwyd oddiwrth un o'r ysgolfeistriaid at L. W., pan oedd ef yn ysgolfeistr yn y Bwlch.