Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi. 3. Penderfynwyd am roddi i'r athraw 4p. y chwarter am ddysgu Cymraeg heb derfyn i'r rhifedi; ac i'r athraw gael rhyddid i gymeryd cymaint ag 20 i ddysgu Saesneg (os bydd galw), ac i gyfarwyddwyr yr ysgolion gael haner y pris oddiwrth y rhieni fel y cynygiasoch, ac i'r athraw gael yr haner arall. 4. Tynwyd lots pa rai o'r ysgolion a drefna rhagluniaeth gyntaf i gael yr ysgol; a daeth y lot (1) i Dowyn, (2) Dyfi, (3) Bwich, (4) Pennal. 5. Barnwyd y dylid casglu cyflog chwech wythnos cyn dyfodiad yr athraw i bob lle.

"D S.—Fod yr ysgol i fod gwarter ymhob lle, ac i ryw berson neu bersonau ymrwymo i'r athraw dros y rhai Cymraeg am ei gyflog, ac felly fod pob lle megis ar ei ben ei hun.—Oddiwrth eich annheilwng frawd, Jno. Jones, Ysg. y Cylch."

II—YR YSGOL SABBOTHOL AM YR 50 MLYNEDD CYNTAF O'I HANES

Wedi cychwyn Ysgol Sul mewn ardal, fel canlyniad yr ysgol ddyddiol a'r ysgol ddechreu y nos, i lawr y byddai yn myned drachefn, y rhan amlaf, ac ni fu fawr o sefydlogrwydd iddi yn unman o fewn y Dosbarth hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif bresenol. Yr hyn fu yn foddion i roddi cychwyniad gwirioneddol iddi ydoedd,—1. Arosiad y Parch. Owen Jones (Gelli), am ychydig yn awr ac yn y man gyda'i deulu yn Nhowyn o 1803 i 1808. 2. Penodiad L W. fel ysgolfeistr cylchynol yn yr ardaloedd. 3. Yr ysgol sefydlog oedd gan John Jones, yn Penyparc. Diameu i'r pethau hyn fod yn brif symbyliad iddi yn ei mabandod. Ceir hanes sefydliad un, sef ysgol Sion, ymhlith papurau L. W. Yr oedd Sion hyd yn gymharo! ddiweddar yn perthyn i ddosbarth ysgol rhwng y Ddwy Afon. Sefydlwyd yr ysgol hon, yn ol cofrestr yr hen athraw ffyddlon, yr hwn a gadwai yr ysgol ddyddiol yn yr ardal ar y pryd, Mehefin 20, 1813. Pa un ai ail gychwyn, ai dechreu y tro cyntaf oedd hyn, nid yw yn hollol sicr, ond rhoddir yr hanes gan L. W. fel un yn dechreu am y tro cyntaf erioed. Ar ol