Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/273

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwybod beth oedd yr achos o hyny. Ond fe ddeisyfodd ef arnaf fi anfon atoch drosto ef, gan fy mod yn clywed y modd yr oeddis yn ymdrin â'r achos yno. Nid fy hoff waith yw gwneuthur, dywedyd, nac ysgrifenu dim a fyddo o natur geryddol (er ei fod yn fuddiol), eto, yr wyf wedi methu anufuddhau i ddeisyfiad yr ysgrifenydd y waith hon. Fe ystyriwyd y mater gyda golwg ar eich absenoldeb, mewn modd tirion ac addfwyn; fe goffhawyd eich bod wedi cael cenadwri gan y cyfarfod yn Nhowyn, i'w thraddodi i ysgol Corris, oherwydd nad oedd neb oddiyno yn y cyfarfod; fe gafwyd eich bod yn ffyddlon, ac fe'ch cydnabyddwyd mewn diolchgarwch. Rhoddwyd yr un genadwri i David Humphrey, Abercorris, i'w thraddodi i chwithau ar yr un achos. Ond ar ol hyn fe amlygwyd eich bod wedi rhoddi yr ysgol heibio, ac fe gymerwyd y genadwri oddiwrth y cenhadwr, ac fe orchmynwyd ysgrifenu llythyr atoch mewn modd caredig. Gofynwyd a oeddych wedi ystyried a oedd dysgu "y rhai nis medrant," a "hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd" yn ordinhad ddwyfol? Ystyriwyd beth a allai fod yr achlysur i roi yr ordinhad hon heibio mwy na phregethu. Ni chafwyd fod dim yn achos digonol ond diffyg lle, a hyn nid oedd yn achos genych chwi. Dywedwyd y gallai fod genych achos digonol yn eich meddwl. Os na fyddech wedi ail ddechreu yr ysgol cyn y cyfarfod nesaf, yr hwn a gynhelir yn Nghorris, os byddech mor addfwyn, a gostyngedig, ac ewyllysgar i'r gwaith, a datguddio eich meddwl i'r cyfarfod trwy fod yno eich hun os gellwch, neu anfon, ond gwell eich cael eich hun; nid yn neillduol i'ch ceryddu, nac ychwaith i'ch hyfforddi, ond i dderbyn addysg ac adeiladaeth oddiwrthych. A hyn oddiwrth y Cyfarfod Chwechwythnosol,

Trwy eich annheilwng wasanaethwr,

LEWIS WILLIAMS."

Y lle hwn a roddasai yr ysgol heibio, yn ol pob tebyg,