Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyaf o'r Beibl, Mary Richard, o Gorris; Egwyddorion, Evan Jones, Bryncrug."

Gwnaethpwyd ymdrech mawr yn y cylch hwn, yn ystod y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol, i osod yr Ysgol Sabbothol i weithio ar dir cadarn, ac i dynu allan reolau sefydlog perthynol iddi. Ac ymddengys i lawer o'r trefniadau a'r rheolau a ffurfiwyd yma gael eu mabwysiadu, nid yn unig yn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ond yn holl siroedd y Gogledd hefyd. Y mae ar gael, mewn pamphledyn, yn llawysgrif John Jones, Penyparc, gyfres faith o Reolau a ffurfiwyd ganddo ef ei hun. Y wyneb—ddalen sydd debyg i hyn,—"Rheolau Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd, o fewn Cylch Towyn. Ffurfiwyd a phenderfynwyd ar reolau yr athrawon, gan gynrychiolwyr yr ysgolion gwahanol, mewn cyfarfod yn Aberdyfi, Mawrth 1af, 1818. Penderfynwyd rheolau yr ysgolheigion mewn Cyfarfod Daufisol gan ddirprwywyr yr Ysgolion Cyfunawl yn Nhywyn, Mawrth 26ain, 1820. Trefnwyd ac adolygwyd hwynt gan gynrychiolwyr y Cylch yn Mryncrug, Mehefin 17eg, 1822." Yn Nghymdeithasfa yr Wyddgrug, Mawrth, 1836, mabwysiadwyd rheolau unffurf i'r holl Ysgolion Sabbothol drwy holl siroedd Gwynedd; ac y mae y rhai hyny yn dra thebyg i'r rheolau oeddynt wedi eu ffurfio flynyddau yn gynt yn Aberdyfi, Towyn, a Bryncrug. Gwnaeth y gŵr hwn, sef John Jones, Penyparc, sydd wedi huno bellach er's dros ddeugain mlynedd, waith mor fawr gyda'r Ysgol Sul, am yr haner can mlynedd cyntaf o'i hanes, fel y teilynga ei enw gael ei drosglwyddo i lawr i'r oesau a ddêl fel un o'i chymwynaswyr penaf. Mewn llythyr at Gyfarfod Chwechwythnosol Seion, dyddiedig Chwefror 12fed, 1820, dywed, "Mae yn gysurus gweled y graddau sydd o lewyrch ar y rhan hon o'r gwaith. Hyn sydd yn eglur, fod yr Arglwydd o'i du, ac yn rhoddi llawer o arwyddion o'i foddlonrwydd yn yr ymdriniad âg ef. Bydded i hyn ddyfod a ni i ryfeddu yn y llwch, ein bod wedi taro at achos ag y mae Duw mawr y nefoedd o'i blaid.