Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/276

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bum yn meddwl fod arnom eisiau sylwi yn fanylach ar foesau yr ysgolheigion, ac ymdrechu i gael rhyw lwybr i wobrwyo a dangos ein cymeradwyaeth i'r rhai fyddo yn rhagori ac yn cynyddu ymhob rhinwedd." Yna enwa amrywiol bethau y dylid cael yr ysgolheigion i dalu sylw iddynt. Anfonodd anerchiad maith hefyd at Gyfarfod Ysgolion Corris, dyddiedig Gorphenaf 6ed, 1833, ar "Y prif ddiben a ddylai athrawon yr Ysgolion Sabbothol bob amser ei olygu yn eu holl lafur." Mae yr anerchiad, yr hwn sydd yn llaw-ysgrif J. J. ei hun, ac yn gyfeiriedig at Mr. Humphrey Davies (hynaf), Corris, yn dra chynwysfawr, ac yn hynod o addas i amgylchiadau pob oes, ac nid hawdd yw ysgrifenu dim y blynyddoedd hyn yn fwy pwrpasol. Wele rai o'r sylwadau. 1. Y prif ddiben ddylai fod genym ydyw ceisio bod yn offerynol i droi llawer i gyfiawnder. 2. Bod yn foddion i gynyrchu yn yr ysgolheigion argyhoeddiad o bechod, edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 3. Dylai y penodau fyddo i'w darllen fod dan sylw yr athrawon yr wythnos flaenorol. 4. Ymgeisio i gyraedd y gydwybod yn gystal a goleuo y deall. 5. Buddiol fyddai i'r athrawon ymdrechu i geisio defnyddio pob moddion a manteision i'w haddasu eu hunain i addysgu eraill. 6. Gochel prysurdeb i symud plant a phobl ieuainc i'r llyfrau uwchaf cyn meistroli y llyfrau dechreuol. 7. Gofalu rhoddi esiamplau da i'r rhai fyddo dan addysg, gan y medr plant ddarllen bywydau eu hathrawon yn well o lawer na'u llyfrau. 8. Gochel sarugrwydd ar un llaw, ac ysgafnder ar y llaw arall. 9. Rhoddi esiampl o ddiwydrwydd o flaen y disgyblion. Cofio nad oes genym ond un diwrnod i lafurio am eu lleshad tragwyddol, nac ychwaith ond ychydig amser ar y dydd hwnw, pan y mae gan Satan a phechod chwe diwrnod, a phob awr o bob diwrnod. Ni ddylai athrawon Ysgolion Sabbothol yn anad neb golli dim amser, ond ystyried eu hunain yn weithwyr, nid wrth y dydd, ond wrth y mynyd. 10. Nis gallwn gyflawni dyledswyddau perthynol i'n swydd, na bod yn sicr o lwydd-