Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/277

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iant ar ein hymdrechion, heb gymorth dwyfol. Am hyny ychwanegwn at addysgiadau ac esiamplau WEDDI.

Un o'r elfenau mwyaf pwysig yn ngwaith yr ysgol am haner can mlynedd oedd adrodd pwnc, neu fel y byddai rhai hen bobl yn dweyd, adrodd point. Fe fyddai pwnc yn cael ei roddi i'r ysgol, a chwestiynau yn cael eu rhoddi ymlaen llaw, a hysbysrwydd pa ddosbarth neu bersonau oedd i ateb. Felly byddai gwaith penodol yn cael ei roddi i bob un yn yr ysgol. Dyma engreifftiau o bwnc ysgol a roddai L. W., yn y fl. 1811, i ysgolion Llwyngwril, Bwlch, a Bryncrug. Proffwydoliaeth am Grist oedd y pwnc. "O ba deulu y deuai Crist? I ateb, John William a Jane Peter. Fath un a fyddai ei fam? I ateb, Evan Evan ac Ann Pugh. Lle y genid ef? I ateb, D. Davies a Betty Jones. Am yr un a godai ei sawdl yn ei erbyn ef. I ateb, John Jones a Pegy Rees." Rhan arall bwysig iawn i beri i ieuenctyd ddysgu y Beibl allan oedd, adrodd penodau a Salmau ar ddechreu yr ysgol, o flaen pregeth, ac yn y cyfarfodydd gweddïo. Ni fyddai yr un cyfarfod, na bach na mawr, o'r Sasiwn i lawr hyd at y cyfarfod gweddi, na byddai rhywun yn adrodd penod allan. Cynghori hefyd fyddai yn cael lle mawr, ac adrodd y Deg Gorchymyn. Dyma dri pheth oeddynt yn hanfodol i waith yr ysgol yn y dyddiau gynt—adrodd pwnc, adrodd penod allan ar ddechreu yr ysgol, ac adrodd y Deg Gorchymyn ar ddiwedd yr ysgol.

Fe fu amryw bersonau yn wasanaethgar a defnyddiol gyda gwaith yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth hwn am yr haner cyntaf yn gystal a'r haner olaf o'r can' mlynedd diweddaf. Ond o'r holl bersonau a weithiodd yn rhagorol trwy anhawsderau mawrion, bu tri yn nodedig o amlwg am yr haner cant cyntaf o oes yr ysgol, ac yr oedd y tri yn cael eu coffhau yn ystod Gwyl y Canmlwyddiant, ddwy flynedd yn ol, fel y tri chedyrn blaenaf yn y fyddin. Y personau hyny oeddynt y Parch. Owen Jones, Gelli, y Parch. Lewis Williams, Llanfachreth, a John Jones, Penparc. Gweithiodd llawer eraill yn dda,