Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/279

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddodd y cyfnerthiad mwyaf grymus iddi o ddim byd a ddigwyddodd o'r dechreu hyd yn awr. Flynyddoedd a ddaw, yn y dyfodol, mae yn bur sicr yr edrychir ar y Can'mlwyddiant sydd newydd fyned heibio fel cyfnod yn ei hanes y rhoddwyd camrau grymus ymlaen.

III—Y CYFARFODYDD YSGOLION.

Ymddengys yn lled sicr mai Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a gafodd yr anrhydedd o roddi y cychwyniad cyntaf i'r cyfarfodydd hyn yn Nghymru. Nid ydym wedi gweled yn hanes. Mr. Charles ddim byd sicr mewn cysylltiad â hwy, dim ond yn unig grybwylliad fod tebygrwydd mai efe a'u sefydlodd. Ond ni welsom ddim byd yn rhoddi sicrwydd pa bryd, pa le, na pha fodd y sefydlwyd hwy ganddo ef. Yn Nghynhadledd Can'mlwyddiant yr Ysgolion Sabbothol yn Nolgellau, Mai, 1885, wrth siarad ar y Cyfarfodydd Ysgolion, gwnaeth un o'r siaradwyr grybwylliad mai yn Nosbarth Towyn y sefydlwyd hwy. Ac mewn adolygiad ar yr Adroddiad o'r Gynhadledd yn y Lladmerydd, am Gorphenaf yr un flwyddyn, ceir y sylw canlynol Da genym ei weled (sef un o'r siaradwyr a siaradodd ar y Cyfarfodydd Ysgolion) yn cywiro crybwylliad a wneir yn Llyfr Can'mlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru, gan Mr. Levi, am Mr. Charles fel sylfaenydd y sefydliad a elwir 'Y Cyfarfod Ysgol. Mae yn wybyddus mai yn Nosbarth Towyn Meirionydd y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Ysgolion, ac mai y diweddar Barch. O. Jones, Gelli, oedd eu sylfaenydd." Yr oedd y gŵr Parchedig o'r Gelli, fel y crybwyllwyd, yn enedigol o'r Crynllwyn, gerllaw Towyn, ac wedi iddo ddyfod yn gyhoeddus gyda gwaith yr Ysgol Sul, ymwelai yn awr ac eilwaith â'i ardal enedigol, a'r adegau hyny enynai zel yn ei gymydogion o blaid ei hoff orchwyl. Dychwelodd i Dowyn yn gwbl oll, gan ddechreu cario ymlaen fasnach yn y gelfyddyd y dysgwyd ef ynddi, yn 1808, ac arhosodd yma am flwyddyn neu ragor. Ei fywgraffydd, y Parch. John Hughes, Bont-