Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/280

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

robert, yr hwn oedd yn berffaith hyddysg yn ei hanes, a'r hwn hefyd a wyddai hanes crefydd yn y wlad y blynyddoedd byn oreu o bawb, a rydd y wybodaeth bendant a ganlyn:—"Yn yr ysbaid y bu yn byw yn Nhowyn, y rhoddodd ef y cychwyniad cyntaf ar y Cyfarfodydd Chwechwythnosol a Daufisol, yn achos yr Ysgolion Sabbothol. Er i'r cyfryw gyfarfodydd fyned i lawr am flynyddoedd yn yr ardaloedd hyny, wedi ei symudiad efo Dowyn, eto yn fuan wedi iddo ddyfod i fyw i Sir Drefaldwyn, trwy gydgordiad a chydweithrediad amryw o'i frodyr, sefydlwyd y cyfryw gyfarfodydd, ac y maent yn parhau hyd heddyw, nid yn unig yn Swydd Drefaldwyn, ond trwy Gymru yn gyffredinol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd."

Y mae y paragraff uchod yn dangos yn eglur, debygwn, y lle, yr amser, a chan bwy y sefydlwyd y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr ydym yn cael eu bod wedi cael y cychwyniad cyntaf yn Nosbarth Towyn, wedi eu sefydlu drachefn yn Swydd Drefaldwyn, ac yna trwy Gymru yn gyffredinol.[1] Aethant i

  1. Yn y Drysorfa am Mehefin, 1861, ceir ychydig o hanes Ysgol Bryncrug, wedi ei ysgrifenu gan Mr. William Pugh,o Liverpool, maby Parch. William Pugh, Llanfihangel, o'r hwn y Mae a ganlyn yn ddyfyniad: Yn y Gymdeithasfa y soniais am dani o'r blaen, a gadwyd yn Machynlleth, addawodd y Parch. Thomas Charles wrth Mr. Lewis Williams, Llanfachreth, oedd y pryd hyny yn cadw ysgol rhwng y Ddwy Afon, ddyfod i gadw Cymdeithasfa Ysgolion yn Bryncrug, y Sabbath cyntaf ar ol Association Dolgellau y flwyddyn hono, sef 1808. Ond erbyn yr amser, yr oedd Mr. Charles, oherwydd ychydig afiechyd, yn analluog i adael ei gartref, a chafwyd y diweddar Mr. Robert Jones, Rhoslan, i gadw y Gymdeithasfa yn ei le ef, a chynorthwywyd yntau gan y diweddar Mr. William Pugh, Llanfihangel. Yn yr odfa y nos, holodd Mr. Owen Jones, Towyn, Ysgol Sabbothol Bryncrug, am waith y tri Pherson yn iachawdwriaeth pechadur.
    Yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol, sef 1809, codwyd yno Gymdeithasfa Ysgolion drachefn, gan yr un Mr. O. Jones (oedd y pryd hwnw heb ddechreu pregethu, ond wedi hyny y Parch. Owen Jones, Gelli, Sir Drefaldwyn). Cymdeithasfa hynod o lewyrchus oedd hono. Yr wyf yn cofio mai un o faterion yr odfa ddau o'r gloch ydoedd—Disgynind a Dyrchafiad yr Arglwydd Iesu; a bod y proffwydoliaethau a'r cyflawniadau yn cael eu cyferbynu a'u gilydd, fel y maent yn y pwnc am y Bod o Dduw, ond yn helaethach. Yr oedd yr athrawiaeth megis yn teithio ar ei huchelfanau, mewn mawredd, ardderchogrwydd, ac awdurdod. Pan yn adrodd yr adnodau am Paul yn syrthio ar y ddacar yn agos i Damascus, sylwodd Mr. Jones, gydag effeithiolrwydd mawr, mor ddedwydd oedd Paul i gael daear i syrthio arni, cyn syrthio yn ei wrthryfelgarwch yn erbyn yr Arglwydd Iesu i uffern, a pherswadiai ni yn egniol i blygu i Grist tra byddai genym ddaear i blygu arni. Gallesid, ac yr oedd rhai yn meddwl, fod pawb o'r ysgolion yn plygu iddo o wirfodd calon. Mae y Gymdeithasfa hono yn werth ei chofio heddyw, er ei bod wedi myned heibio er's dros ddeng mlynedd a deugain." Profa y dyfyniad hwn ddan beth—yn gyntaf, mai yn Bryncrug, y flwyddyn uchod, y cyfodwyd y Cyfarfodydd Ysgolion; yn ail. mai tua'r flwyddyn 1808 yr oedd y Cymanfaoedd Ysgolion yn eu gogoniant. Rhoddir yr enw Cymdeithasfa yma ar y Gymanfa Ysgolion a'r Cyfarfod Ysgolion.