Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/281

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawr yn Nosbarth Towyn am dymor, feallai, o chwech neu saith mlynedd. Yn mhapurau L. W. ni cheir cyfeiriad atynt o gwbl yn y blynyddoedd 1811 a 1812, ond yn unig at gyfarfod a gynhelid yn fisol i holi yr ysgolion yn unigol ar bynciau a roddid iddynt. Ac y mae hyn yn profi y dywediad yn Nghofiant y Parch. O. Jones. Ni cheir eu hanes yn ail ddechreu, ond yr oeddynt yn bod Ionawr, 1817, o dan y cymeriad o Gyfarfodydd Chwechwythnosol y Cylch. A'r mis hwn yr oedd arolygiaeth yn cael ei wneyd ar y gwahanol ysgolion, a phrawf hefyd fod cryn waith wedi ei wneuthur drwyddynt eisoes, oddiwrth yr hyn y mae yn rhaid dyfod i'r casgliad eu bod wedi eu hail gychwyn flwyddyn neu ddwy, o leiaf, cyn y dyddiad uchod. Mae y llythyr a ysgrifenodd L. W. un o ddyddiau cyntaf y flwyddyn 1817 yn profi mai nid peth newydd oedd y cyfarfodydd hyn. Gellir felly, yn lled sicr, roddi dyddiad eu dechreuad yr un flwyddyn ag y bu farw Mr. Charles, sef 1814. A hwn oedd y Cyfarfod Ysgol cyntaf yn Ngorllewin Meirionydd. Yn nechreu 1819 y ffurfiwyd y cyfarfodydd hyn gyntaf yn Nosbarth Trawsfynydd a Ffestiniog, yn ol cyfrifon Mr. Morris Llwyd, Cefngellgwm. Ac yn 1817 y cawsant eu sefydlu yn Eifionydd, yn ol tystiolaeth bendant Mr. Ellis. Owen, Cefnymeusydd. Modd bynag, mae yn bur sicr fod bywyd a gweithgarwch digyffelyb yn perthyn i holl waith yr Ysgol Sabbothol am y pum' mlynedd cyntaf ar ol ail ddechreu y cyfarfodydd hyn. Yr oedd y blynyddoedd hyny—blynydd-