Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/282

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Diwygiad Beddgelert—yn flynyddoedd deheulaw yr Arglwydd yn Nghymru.

Yr hanes nesaf ar gael am y Cyfarfodydd Ysgolion yn y Dosbarth hwn ydyw, yr ymdrafodaeth a gymerodd le o berthynas i'r newidiad yn yr amser o'u cynal—o chwech-wythnosol i ddau fisol. Y mae manylion yr ymdrafodaeth hon i'w cael yn mhapyrau L. W., ac yn ei lawysgrif ef ei hun. Mae yr hanes yn ddyddorol, gan ei fod yn dangos y modd y symudai y brodyr ymlaen gyda'r gwaith yr amser hwn, ac felly, fe'i rhoddwn ef yma yn llawn:—

"Cynygiad ar gael gwell trefn ar y cyfarfodydd sydd yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol yn y rhan nesaf i'r mor o Sir Feirionydd. Sef ar y pedwar dosbarth,—1. Rhwng y Ddwy Afon, Abermaw a Dyfi; 2. Dyffryn; 3. Trawsfynydd; 4. Dolgellau. Y sylw cyntaf ar hyn a fu mewn Cyfarfod Ysgolion ardaloedd Dolgellau, yn Buarthyrë, Gorphenaf 20, 1820. Penderfynwyd yno ar yr achos i anfon i'r dosbarthiadau eraill, i ddeisyf arnynt anfon cenhadwr dros eu dosbarth i gyfarfod blynyddol Dolgellau, Medi 24, i fwrw golwg ar gael diwygiad ar y drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau.

CYFARFOD BLYNYDDOL DOLGELLAU, MEDI 24, 1820.

Penderfyniadau a wnaed yno at gael diwygiad ar drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau uchod.

1. Na byddo dim ond un o'r Dosbarthiadau i gadw eu cyfarfod ar yr un Sabbath, oherwydd os byddai mwy nag un ar unwaith, byddai yn anhawdd cael offerynau i'w cadw; ac os ceid, byddai hyny yn drygu moddion Sabbothol mewn lle arall. 2. Fod y dalaeth i fod yn unffurf yn amser ei chyfarfodydd, sef bob yn ddau fis, fel na byddo y naill ddim yn myned ar ffordd y llall. Nid oedd cenhadon cylch rhwng y Ddwy Afon ddim yn gallu penderfynu yn bresenol, a ddeuai eu cylch hwy yn unffurf o berthynas i'r amser, oherwydd eu bod hwy wedi cael gorchymyn na newidient y drefn, o chwech-wythnosol i ddau