Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/283

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fisol, am y byddai hyny yn lleihau breintiau y cylch—oherwydd fod y cylch mor fawr, ni ddeuai y cyfarfod ond anaml iawn i bob lle, os byddai bob dau fis. Ond addawsant y gwnaent cu goreu i gael y Dosbarth yn foddlon i fod yn unffurf yn yr amser, os caent gyfarfod arall o'r enw cyfarfod achlysurol y daith Sabbothol. Penderfynwyd y caent yn ewyllysgar, ond iddynt hwy ofalu am offerynau i'w gadw, ac na byddai iddynt ei gadw ar yr un amser a'r cyfarfodydd eraill. 3. Bod i'r dalaeth gadw ei chyfarfodydd yn yr un mis. (1) Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon i gadw eu cyfarfodydd y Sul cyntaf o'r mis; (2) Dyffryn yr ail Sul o'r mis; (3) Trawsfynydd y trydydd Sul; (4) Dolgellau y pedwerydd Sul, neu yr olaf o'r mis. A'r drefn hon i fod bob yn ddau fis. 4. Penderfynwyd ar bersonau i gadw y cyfarfodydd, ac i fod yn olygwyr arnynt. Sefydlwyd un ymhob Dosbarth, ac i bob un fod yn ofalus am ei Ddosbarth ei hun—i fod ymhob cyfarfod os byddai modd, ac i alw am un o'r lleill i'w gynorthwyo yn y gwaith, a bod gan y naill awdurdod ar y llall i alw am gynorthwy, os byddai Cyfarfod Misol y sir yn foddlon. 5. Bod hyn gael ei ofyn yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn y rhan hyny o'r moddion a fyddo yn perthyn i'r achos yn y sir. Y personau a enwyd oeddynt,—

1 Dosbarth y Ddwy Afon, Lewis Williams.
2 Dosbarth y Dyffryn, Richard Humphreys.
3 Dosbarth Trawsfynydd, Richard Jones.
4 Dosbarth Dolgellau, Richard Roberts."

Buarthyrë, lle y cychwynwyd yr ymdrafodaeth i'r trefniadau hyn, ydoedd ffermdy yn y bryniau pell, rhwng Hermon ac Abergeirw. Nid oedd yr enw adnabyddus Gorllewin Meirionydd mewn bod y pryd hyn; gelwid y cylch eang hwn y rhan agosaf i'r mor o Sir Feirionydd. Nid oedd dim cymaint a sôn yn yr ymdrafodaeth ychwaith am Ffestiniog boblog a brigog; llyncid y lle gor-bwysig, ac yn awr mawr ei freintiau, i fyny yn llwyr ac yn hollol yn y lle pellenig hyd yn ddiweddar, Trawsfynydd