Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor weithgar a llewyrchus, os nad yn fwy felly, nag yn yr un dosbarth yn y sir.

IV—Y CYMANFAOEDD YSGOLION

Y mae i bob peth yn y byd hwn ei dymor. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion ydoedd yn 1808. Trwy gydgyfarfyddiad amryw bethau mewn Rhagluniaeth, yr oedd zel a brwdaniaeth gyda y rhan yma o waith yr Arglwydd wedi cyfodi i bwynt uchel y flwyddyn hon. Cynhelid rhai Cymanfaoedd lliosog yn yr awyr agored, am nad oedd adeiladau digon eang i'w cael tuag at eu cynal. Yn 1808 y cynhaliwyd y Gymanfa hynod ar ben mynydd Migneint, yn gynwysedig o. ysgolion Ffestiniog ac Ysbytty, pryd yr oedd 300 o ddeillaid yr Ysgolion Sabbothol yn bresenol, ac y torodd allan yn orfoledd mawr cyn i'r ysgolion ymwahanu. Hon ydoedd y Gymanfa Ysgolion hynotaf, yn ddiau, a fu yn Sir Feirionydd o'r dechreu hyd yn awr. Ni cheir hanes am yr un Gymanfa neillduol yn y dosbarth rhwng y Ddwy Afon mewn amseroedd. boreuol, ond yr un y bu y Parchn. Robert Jones, Rhoslan, Owen Jones, a W. Pugh, yn ei chynal yn Bryncrug, yn 1808. Eto, adrodda hen bobl y wlad iddynt weled cyfarfodydd lliosog o ddeillaid yr Ysgol Sul lawer gwaith, a'r holwyddori cyhoeddus. ynddynt gan y Parchn. O. Jones, y Gelli, Lewis Williams, a. Robert Owen, Nefyn, o dan yr eneiniad dwyfol.

Peth cymhariaethol ddiweddar ydyw y Gymanfa Ysgolion flynyddol, rhwng y Ddwy Afon, wedi ei sefydlu yn rheolaidd yn 1858. Ni bu iddi erioed gael ei chynal yn gyson a rheolaidd yma cyn hyn. Mae yn wir fod dau gyfarfod tebyg i Gymanfa wedi eu cynal yn gynt. Cynhaliwyd y cyntaf yn Mhennal, yn 1864, yr hwn a ganmolir yn fawr hyd heddyw, yn yr hwn y tynodd y Parchn. G. Ellis, M.A., Bootle, a John Roberts, Kassia, sylw neillduol, pan yn fechgyn tra ieuainc. Enillodd Mr. G. Ellis y brif wobr, ac areithiodd ef a Mr. John Roberts yn y cyfarfod. Yr ail a gynhaliwyd yn Nhowyn,