Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/287

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd rai gweithiau yn ei mabandod, fel pob creadur ieuanc. Ond nid yn unig y mae wedi parhau heb ei rhoddi i lawr, ac heb i'w harweinwyr feddwl unwaith am ei rhoddi i lawr, ond y mae bellach er's cryn amser yn enill nerth flwyddyn ar ol blwyddyn. Ac nid oes i'w gael yn y rhan yma o'r wlad yr un cyfarfod yn ystod y flwyddyn mor boblogaidd ag ydyw. Cedwir i fyny fesur mawr o frwdfrydedd yn y rhan fwyaf o'r ysgolion o berthynas iddi. Feallai fod dau reswm o leiaf i'w cael dros ei llwyddiant yn y dosbarth hwn ragor dosbarthiadau eraill yn y sir. Un rheswm ydyw, yr amrywiaeth a berthyn iddi, a'r ymgais a wneir i roddi gwaith i lawer, ac hyd y gellir i bawb. Gwneir gwaith mawr yn ystod y flwyddyn ar ei chyfer. Yn y Gymanfa ddiweddaf, er engraifft, rhoddwyd yn yr oll 290 o Dystysgrifau am ddysgu allan—am ddysgu y Rhodd Mam 43: yr Holiedydd Bach 25; Tonic Solffa 80; y naw penod cyntaf o'r Hyfforddwr 40; yr oll o'r Hyfforddwr 82. [Yn y Gymanfa a gynhaliwyd ar ol hyn yn Abergynolwyn yn 1888, dosbarthwyd yn yr oll 329 o Dystysgrifau]. Y rheswm arall dros ei llwyddiant ydyw, fod yn digwydd bod yn y dosbarth nifer dda o ddynion medrus ac ymroddgar, yn weinidogion, pregethwyr, blaenoriaid, ac ysgolfeistriad yr ysgolion dyddiol, y rhai a roddant law wrth law ac ysgwydd wrth ysgwydd yn gryf o blaid y symudiad. Eleni (1887), cynhelid y Gymanfa yn Llanegryn, Llun Sulgwyn, yr hon o ran lliosogrwydd pobl, o leiaf, oedd yn dra llwyddianus. Cyrchai deiliaid yr ysgolion iddi o bob cyfeiriad, mewn wageni, certi, ceir, ar geffylau ac ar draed. Nid oedd yn y lle yr un adeilad digon mawr i'w chynal, a chan fod y tywydd yn ffafriol cynhaliwyd y cyfarfodydd y prydnhawn a'r hwyr yn yr awyr agored. Yr oedd yr olygfa y diwrnod hwnw yn dwyn ar gof yr hanesion am yr hyn a gymerai le, mewn gwahanol ranau o'r wlad, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan oedd y zel gyda y Cymanfaoedd Ysgolion yn ei lawn nerth, yn nyddiau Mr. Charles o'r Bala. Ac wrth dalu diolchgarwch i gyfeillion Llanegryn