Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/288

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am eu croesaw llawn i'r Gymanfa, dymunai Mr. David Rowland, Pennal, fendith iddynt hyd y bedwaredd-genhedlaeth- ar-ddeg-ar-hugain-ar-ol-y-ganfed.

V—SWYDDOGION Y CYFARFOD YSGOLION

Yr ydym wedi gweled i sicrwydd mai Lewis Williams, wedi hyny o Lanfachreth, oedd y pregethwr a ofalai am y cyfarfodydd yn 1820. Efe yn ddiameu oedd y gofalwr o'r cychwyn cyntaf, a'r flwyddyn uchod gosodwyd ef yn rheolaidd yn ei swydd. Bum' mlynedd wedi hyn yr oedd ef yn ymsefydlu yn Llanfachreth, ond y tebyg ydyw ei fod yn arolygu llawer ar y Cyfarfodydd Ysgolion yn y dosbarth hwn drachefn, hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Y Parchn. Richard Roberts, Dolgellau, a William Jones, Maethlon, oeddynt yn holwyddorwyr rhagorol, ac arnynt hwy y disgynodd llawer o'r gwaith ar ol L. W. Yn y flwyddyn 1859 yr oedd dau yn y swydd o ofalwyr, sef y Parchn. Ebenezer Jones, Corris, a Robert Griffith, Bryncrug. Ar eu hol hwy bu y Parch. W. Davies, Llanegryn yn ofalwr, am 6 neu 7 mlynedd. Gan na chadwyd dim cyfrifon rheolaidd hyd yn ddiweddar, nis gellir cael enwau y swyddogion ond yn anmherffaith.

Ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgol o'r cychwyn cyntaf yn ddi-ddadl ydoedd John Jones, Penyparc. Cyfeirir ato felly yn awr ac eilwaith yn ysgrifau Lewis Williams, yr hwn a'i galwai ef "Ein hanrhydeddus a'n parchus ysgrifenydd." Llanwodd y swydd hyd nes iddo fethu gan henaint, a bu ei dymor ef gyda y gwaith yn hwy o lawer na neb arall. Er ei fod yn fedrus a manwl fel ysgrifenwr, ymddengys na ddarfu iddo ddim cadw llyfr cofnodion o hanes y cyfarfodydd, yr hyn sydd erbyn hyn yn golled. Clywsom un oedd yn ysgrifenydd yn ddiweddarach nag 1850 yn dweyd na chedwid dim cofnodion yn ei amser ef ond a roddid i lawr yn y Dyddiadur ar y pryd. Bu y personau canlynol yn ysgrifenyddion ar ol J. J.-Lewis Vaughan, Bryndinas: Evan Roberts,