Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhai hyn yn taeru mai eu plant hwy a enillodd; y rhai acw yn taeru mai eu plant hwythau a enillodd. Byddai felly, mewn canlyniad, lawer o gelwyddau yn ystod un dydd, heb son am lawer o ddyddiau. Oddiwrth yr arferiad hwn o ddweyd celwyddau, yn ddiameu, y cafodd lle yr enw sydd arno hyd heddyw—"Pencareg-Celwydd." Mawnog Ystradgwyn oedd le enwog am chwareuon a chwerylon ar ddydd yr Arglwydd. Wrth fyned heibio yr ardal hon, sydd wrth droed y Gader, y gofynai Mr. Charles, o'r Bala, i'w gydymaith Dafydd Humphrey, o Gorris, "A oes yma geiliog yn canu yn y fan yma, Dafydd?" Wrth geiliog yn canu y golygai Mr. Charles yr Ysgol Sul. Yn ol atebiad Dafydd Humphrey, nid oedd yno yr un y pryd hwnw wedi ei sefydlu. Oddeutu y flwyddyn 1806, yn ol pob hanes, y dechreuwyd cadw Ysgol Sul yn Ystradgwyn. Y cynulliad lliosog ar y Sul yno cyn hyn oedd, bechgyn Corris a bechgyn Ystradgwyn, yn llafnau mawr, yn myned trwy eu campau ar y Fawnog. Nid chwareu plant fyddai ar Fawnog Ystradgwyn, ond pobl gryfion yn ymlafnio ac yn ymryson a'u gilydd i gyflawni gwrhydri, trwy nerth braich ac ysgwydd. Rhoddid prawf hefyd ar nerth traed a choesau, oblegid rhan bwysig o chwareuon y lle oedd ymryson rhedeg round o gwmpas llyn Talyllyn. Byddai rhedegfeydd o amgylch y llyn ar y Suliau y blynyddoedd hyn mewn bri mawr, fel rhedegfeydd y Groegiaid yn ngwlad Groeg. Sŵn ymrysonau o'r fath hyn a glywodd creigiau Cader Idris, hyd nes y daeth yr Ysgol Sul a phregethu y gair i'w hymlid ymaith.

Yn mis Medi, 1784, yn mhentref Bryncrug, yn mhlwyf Towyn, y ganwyd Owen William, yr hen bregethwr, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Owen William, Towyn. Ysgrifenodd ef ychydig o hanes ei fywyd ei hun. A chan ei fod yn dechreu ei oes ar derfyn dyfodiad crefydd i'r wlad, ac yntau yn wr craffus a chofus, mae yr hyn a ysgrifenodd yn taflu rhyw gymaint o oleuni ar gyflwr y wlad. Ei dystiolaeth ef am yr ardal hon, yn moreuddydd ei fywyd, ydyw yr hyn a