Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/291

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VII. RHAI O FLAENORIAID HYNOTAF Y DOSBARTH

CYNWYSIAD—Harry Jones, Nantymynach—William Davies, Llech— lwyd—Owen Evan. Tyddynmeurig—John Jones, Penyparc— Richard Jones, Ceunant—Humphrey Davies, Corris—Rowland Evans, Aberllyfeni—Owen Williams, Aberdyfi—William Rees, Towyn—Thomas Jones, Corris—Hugh Owen, Maethlon—William. James, Maethlon.

Harry Jones, Nantymynach

 AE hyny o hanes sydd i'w gael am y gŵr hwn yn rhoddi rhyw gipolwg i ni ar bethau fel yr oeddynt. yn y dechreuad. Dilynai ef yn bur agos i sodlau y crefyddwyr cyntaf. Yr oedd yn un o'r blaenoriaid cyntaf, ac hefyd yn un o'r rhai a ddechreuodd letya pregethwyr gyntaf yn y bröydd hyn. Derbyniodd angylion i'w dŷ, ac fel Abraham, rhoddodd orchymyn "i'w blant ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd." Gorchymynodd yn bendant iddynt gadw y drws yn agored i weision yr Arglwydd. Cyrhaeddodd ei orchymyn a'i esiampl yn bellach na Nanymynach, oblegid mae ei deulu, hil epil, yn para i "ddilyn lletygarwch." Ymunodd Harry Jones â chrefydd, fel y gellir casglu oddiwrth ychydig o'i hanes, oddeutu y flwyddyn 1794. Treuliodd haner cyntaf ei oes mewn difyrwch gwag, trwy ddilyn chwareuon yr amseroedd, a mynychu y gwylmabsantau. Yn ei argyhoeddiad, teimlai wrthwynebiad cryf i'r athrawiaeth am y pechod gwreiddiol, a syniai mai peth afresymol oedd galw baban yn bechadur. Ond wedi iddo weled ei gyflwr ei hun yn golledig, ffurfiodd farn uniongred o hyny allan am y pechod gwreiddiol. Gwrando pregeth yn Nhowyn ar y geiriau, "ac o'r neilldu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth," a fu