Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/292

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn foddion i beri iddo ymuno â chrefydd. Ar ol ymuno, teimlai anhawsder i ymarfer â dyledswyddau cyhoeddus crefydd, yn enwedig y ddyledswydd deuluaidd. Ond ar ol dechreu, dywedai ei hun yn fynych fod yn anhawddach esgeuluso na chyflawni y ddyledswydd, ac ni fyddai cynhauaf, ffair, na marchnad yn ei atal i gynal y ddyledswydd deuluaidd. Fel meistr, ymddygai yn dirion at ei wasanaethyddion, gofalai am eu lles ysbrydol, ac arferai roddi rhanau o'r gair iddynt y nos, er mwyn iddynt eu cofio, a'u hadrodd ar ddyledswydd boreu dranoeth. Yr oedd ganddo ddull gwahanol i'r cyffredin, hefyd, i ddysgu ei blant i fod yn grefyddol. Pan fyddai yn myned i geryddu un o honynt, cymerai ef i ystafell o'r neilldu, a'r plant eraill gydag ef i fod yn dystion; yna rhoddai y wialen heibio, ac äi ar ei liniau i ofyn bendith ar y cerydd; ac yn y dull hwn, amcanai argraffu ar eu meddyliau mai eu lles personol oedd ganddo mewn golwg wrth eu ceryddu. Yr oedd ei wraig, Margaret Jones, yn nodedig o grefyddol, a chydunai â'i phriod i hyfforddi y gwasanaethyddion, i geryddu y plant, ac i letya gweinidogion yr efengyl.

Llanerchgoediog (Abertrinant) ydoedd ardal gartrefol Harry Jones, ac yr oedd moddion crefyddol yn cael eu cynal mewn tŷ anedd yn yr ardal hono, er cyn iddo ef ymuno â chrefydd. Cynhelid ysgol a chyfarfod gweddi yno y Sabbath, ac er mai ef ei hun fyddai y rhan fynychaf yn ei gynal, deuai y bobl ynghyd fel pe buasai yno bregethwr dieithr. Aelodau o eglwys Bryncrug oedd hyny o broffeswyr oedd yn Llanerchigoediog, ac yr oedd Harry Jones yn gyd-olygwr â John Jones, Penyparc, yn yr eglwys hono. Yr oedd Bryncrug yn gyfoethog, mewn ystyr grefyddol, trwy gael dau flaenor mor enwog. Heblaw gofalu am yr achos bychan yn Llanerchgoediog, elai Harry Jones i Fryncrug unwaith y Sabbath, ac i'r cyfarfod eglwysig bob nos Wener. Rhagorai mewn, doniau i flaenori yn yr eglwys, sef mewn gwroldeb i ddisgyblu, mewn tynerwch i hyfforddi, ac mewn byrdra i fyned trwy ei holl gyflawniadau