Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/296

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canys crefyddwr trwyadl ac amlwg ydoedd. Rhagorai ar bawb yn y wlad fel gweddïwr, ac oherwydd ei alluoedd meddyliol cryfion, a'i ddoethineb, a'r naws grefyddol oedd ar ei ysbryd, meddai allu tuhwnt i'r cyffredin i gynal cyfarfodydd eglwysig. Un a fu yn Tyddyn Meurig yn forwyn a ddywedai iddi lawer gwaith weled Owen Evan yn gwlychu y llawr a'i ddagrau wrth gadw dyledswydd deuluaidd ar foreuau Sabbath. Tystiolaethau fel hyn a'r cyffelyb a glywid yn fynych am dano a roddant gyfrif am ei ddylanwad a'i ddefnyddioldeb gyda chrefydd. Nid un o'r rhai hyny, ychwaith, oedd efe, a weddïant am i'r efengyl fyned "ar adenydd dwyfol wynt," ac na wnant ddim eu hunain tuag at iddi lwyddo. Gweithred ganmoladwy o'i eiddo oedd rhoddi tir i adeiladu capel y Bwlch, ac fe'i rhoddodd am swllt yn y flwyddyn o ardreth. Peth dieithr oedd hyn yr adeg hono; hon oedd y rhodd gyntaf o'r natur yma, oblegid capel y Bwlch oedd y capel cyntaf a adeiladwyd yn yr holl wlad o amgylch. A thueddir ni i gredu ei fod wedi rhoddi y rhodd hon cyn dyfod yn grefyddwr ei hun.

Dyn cryf, lusty, gydag ysgwyddau llydain ydoedd: pencampwr mewn chwareuon ac ymladdfeydd cyn iddo gael crefydd. Adroddir hanesyn am dano, yr hwn a ddengys ei fod yn feddianol ar hunan-feddiant diail. Dychwelai adref un tro, ar ol ei wneyd yn flaenor, o Ddolgellau, ar hyd y Ffordd Ddu. Yr oedd sôn mawr fod lladron yn ysbeilio y ffordd hono. Erbyn dyfod i lawr rhyngddo â Llanegryn, mewn lle cul, tywyll, ar y ffordd, gwelai ryw greadur yn cyfodi o fol y clawdd, ar lun dynes, a mantell fawr am dani. Cychwynodd ymlaen gydag ef, a chydgerddent, a siaradent ambell air â'u gilydd. Ond nid oedd dim i'w gael gan y creadur a'r fantell am dano. Gofynai O. E., "O ba le yr oedd yn ddyfod?" "O draw yna." "I ba le yr oedd yn myned?" "Ymlaen yna." O'r diwedd, disgynodd O. E. oddiar ei geffyl, gan gyd-gerdded â'r creadur dieithr, a gwelai erbyn hyn ei fod yn