Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/297

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawer mwy o gorffolaeth nag ef ei hun. Ond yn y groesffordd. gyntaf, cymerodd y ddynes, neu y dyn a'r fantell y traed i fyned ymaith. Yr oedd hunan-feddiant O. E. wedi ei wan-galoni, ac ni wnaed dim niwed iddo.

Yr oedd O. E. yn ddyn deallus, trwm, dylanwadol, ac yn meddu cymhwysder arbenig i fod yn flaenor. Tueddai i fod yn ddistaw, ac i beidio siarad yn rhy fynych; ond pan siaradai, byddai hyny bob amser i bwrpas. Y sylw canlynol a wnaeth am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, a ddengys ei fod. yn ŵr craff a meddylgar. Yr oedd ef ac un arall wedi bod yn genhadau dros y Cyfarfod Misol i'r Dyffryn, i gynorthwyo yr eglwys i ddewis blaenoriaid, Yn yr etholiad hwnw, Richard. Humphreys a ddewiswyd gan yr eglwys yn flaenor. Wrth ddychwelyd adref, dywedai O. E. wrth gyfaill iddo, "Bu. eglwys y Dyffryn yn bur hapus yn ei dewisiad neithiwr; cawsant ddyn ieuanc gobeithiol yn flaenor; yr wyf fi yn credu fod defnyddiau pregethwr ynddo." Yr oedd O. E. yn dad i'r diweddar Barch. Humphrey Evans, ac yn daid i'r Parch. Owen. Evans, Bolton.

John Jones, Penyparc

Ffermdy ydyw Penyparc, o fewn chwarter milldir i bentref Bryncrug. Yr oedd y lle yn adnabyddus iawn am yr haner cyntaf o'r ganrif hon, am mai yno y preswyllai John Jones. Efe a ystyrid y dyn pwysicaf o bawb ymhlith y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon, o ddechreuad cyntaf crefydd am haner can' mlynedd o amser, ar gyfrif ei ysgolheigdod, ei fedrusrwydd i gyfranu addysg yn wythnosol a Sabbothol, ac oherwydd ei ymroddiad llwyr i grefydd yn ei hamrywiol gylchoedd. Mab ydoedd i Lewis Jones, Penyparc, un o'r rhai cyntaf a agorodd ei ddrws i grefydd yn Bryncrug. Ganwyd ef yn Berthlwyd Fach, yn 1769. Cymerodd ei rieni brydles ar Benyparc, a symudasant yno i fyw. Yr oeddynt mewn amgylchiadau cysurus, fel y gallasent roddi addysg well na'r cyffredin i'w mab, a gwnaeth yntau ddefnydd da o honi. Nid oedd ynddo.