Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymhwysder i fod yn amaethwr. Y chwedl ganlynol a ddengys hyny. Yr oedd yn aredig ar y fferm un tro gydag aradr bren, o'r hen ffasiwn, a rhyw bwt o swch ar ei phen, a bachgen o'i flaen yn gyru y ceffylau. "Ho, fachgen," meddai, dal atat, nid oes genyf yr un gwys." Ar ol myned i'r pen, dywedodd y bachgen wrtho, "Meistr, meistr, nid oes yr un swch ar yr aradr!" Gan nad oedd cymhwysder ynddo at ffermio, a chan ei fod wedi cael ysgol dda yn yr Amwythig, ymgymerodd â chadw ysgol ddyddiol. Dechreuodd ei chadw oddeutu yr adeg yr oedd yr eglwysi cyntaf yn yr ardaloedd hyn yn cael eu ffurfio, oblegid yr ydym yn cael fod Parch. Owen Jones, y Gelli, gyda ef yn yr ysgol yn 1794.

Yr oedd John Jones, a Dafydd Ionawr, y prydydd, yn gyfoedion, wedi eu geni yn agos i'r un adeg, ac yn preswylio yn y ddau dyddyn agosaf; y naill yn Eglwyswr, a'r llall yn Fethodist Calfinaidd. Gwnaeth Dafydd Ionawr brydyddiaeth i John Jones, ac yr oedd yntau yn falch iawn o honi. Deallai navigation yn well na llawer yn yr oes hono, ac fe fyddai bechgyn y môr yn dyfod ato, o Aberystwyth, Aberdyfi, a'r Abermaw. Adroddir hanesyn am dano yn y cysylltiad hwn sydd yn dangos y ffordd y daeth i ymgymodi â sefydliad Athrofa y Methodistiaid yn y Bala. Naw mlynedd cyn ei farw y sefydlwyd yr Athrofa. Yr oedd ef yn un o'r hen bobl, ac nid oedd y cyfryw, fel rheol, yn gweled angen am Athrofa. Modd bynag, yn fuan wedi ei sefydliad, yr oedd rhai o'r efrydwyr ar eu ffordd o'r Bala i Sir Aberteifi, ac yn lletya yn Penyparc. Aeth yr hen ysgolhaig i holi yr efrydwyr am eu gwybodaeth, ac am navigation, ei hoff bwnc. Daeth yr efrydwyr i fyny a'i holiadau, gan eu bod yn alluog i'w hateb yn llawn. Mawr oedd llawenydd yr hen athraw wrth weled yr efrydwyr yn ateb ei holiadau ar forwriaeth, a bu hyny yn foddion i'w enill o blaid yr Athrofa. Yr oedd John Jones yn dduwinydd galluog, ac ystyrid of yn gryn dipyn o awdurdod yn y ffordd hono ymhlith ei gydoes-