Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/299

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr. Gwnaeth holiadau manwl ar holl bynciau y Gyffes Ffydd, a chyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa o fis i fis; ac os nad ydym yn camgymeryd, trwy anogaeth y Gymdeithasfa y gwnaeth hyn.

Ystyrid ef yn ysgrifenwr o radd uchel yr amseroedd hyny. Y mae ei enw i'w weled yn fynych mewn cyfrolau o'r hen Drysorfa a Goleuad Cymru, yn ysgrifenu mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Cyhoeddodd rai llyfrau a chofiantau. Efe oedd awdwr y Silliadur, llyfr elfenol at wasanaeth yr Ysgol Sul, a bu defnyddio mawr arno yn ystod ei fywyd, ac ar ol ei farwolaeth, ac nid oedd ei ragorach i'w gael y pryd hwnw, beth bynag.

Ond y lle y bu ef yn dra defnyddiol, a'i wasanaeth yn anmhrisiadwy werthfawr ydoedd yn ei gartref, ac yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Bu yn cadw lle diacon a gweinidog yn ei eglwys gartref am yn agos i 60 mlynedd. Y tebyg ydyw mai efe oedd y cyntaf oll yn y wlad hon a ddewiswyd yn flaenor eglwysig. Mynych y byddai y daith heb yr un pregethwr y Sabbath, a phan y digwyddai hyny, cymerai J. J. benod neu Salm i'w hesbonio, ac i roddi cynghorion oddiwrth i'r gwrandawyr. Gwnai yr un peth hefyd gyda y lleoedd bychain cylchynol. "Yr oedd," ebe un oedd yn aelod o eglwys Bryncrug yn ei amser, "yn arw am fyned yn erbyn pechod, a chadw disgyblaeth i fyny, a byddai yn hollol ddidderbyn wyneb wrth ddisgyblu. Dywedai am saint y Beibl, wedi iddynt syrthio i ryw fai, a chael eu ceryddu, y byddent ar eu gwyliadwriaeth i ochel y pechod hwnw mwyach." Ebe yr un person drachefn, "Holi yr ysgol yn bur ddwfn y byddai; rhoddai orchymyn pendant i bawb gau eu llyfrau, a dywedai os byddent am eu defnyddio, 'mai yr hwyaf ei wynt am dani hi. Nid mewn dawn yr oedd ei ragoriaeth, ond yn ei gynlluniau a'i ofal am yr achos, a'i ymroddiad i wasanaethu crefydd ymhob modd. Yr ydoedd yn haelionus hefyd yn ol ei amgylchiadau. Bu Penyparc yn gartref i bregethwyr, teithwyr,