Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganlyn,—"Yr oedd ardal Bryncrug yn llawn iawn o annuwioldeb a llygredigaethau—ymladd ceiliogod, chwareu cardiau, y delyn a'r ddawns, pitchio, coctio, a chwareu y bêl; a'r Sabbothau fyddent y prif ddyddiau i gario y rhan fwyaf o'r pethau hyn ymlaen. Byddai yr holl ardal yn ymgasglu ar y Sabbothau i'r pentref i chwareu eu campau, a'r hen bobl, na allent chwareu eu hunain, yn dyfod yno i ymddifyru wrth edrych ar eraill, ac yn gwaeddi 'hai' gyda'r naill, a 'hwi' gyda'r llall. A mynych iawn y gwaeddent, 'Hai Owen,' ac 'Mi wrantaf fi Owen.' Fy mhrif bechod yn fy ieuenctid ydoedd dibrisdod o'r Sabbath. Nid oeddwn yn teimlo dim o awdurdod Duw yn y pedwerydd gorchymyn, ac yr oedd hyny yn achlysur o lawer o bechodau eraill." Eto, dywed am y nosweithiau llawen,— "Ni ddysgais fawr o lun ar ddawnsio erioed, ond byddwn yn hoff iawn o fod gyda'r bobl ieuainc fyddent yn difyru eu hunain. a'u gilydd gyda'r delyn, a'r ddawns, a chanu maswedd. Y noson ddiweddaf y bum gyda'r gynghanedd a'r ddawns yn ysgubor Bach-yr-henllysg (yn ardal Bryncrug), cefais ddifyrwch mwy nag arfer. Dywedais wrth un o'r bechgyn oedd yno wrth ddyfod adref yn y bore, y gwnawn i noswaith lawen yn fuan wedi hyny. 'Gwna di,' ebe yntau, 'os wyt ti yn dewis, ond ni wnaf fi yr un byth ond hyny, i dynu euogrwydd ar fy nghydwybod wrth wahodd pobl iddi ar ddydd Sul.' Cyn i mi gael un noswaith lawen ar ol hono, cefais lawer o nosweithiau, ac wythnosau, a misoedd, o dristwch a thrallod mawr. Gwelais fy mod wedi dinystrio fy hun am byth, a'm bod yn ddyn colledig, a'r truenusaf o bawb yn y byd; ac ofnais yn fawr na welwn na noswaith, na diwrnod, nac un amser llawen byth mwy." Ar ol hyn â ymlaen i roddi darluniad o'i argyhoeddiad. Dywed hefyd mai y cof cyntaf oedd ganddo am dano ei hun ydoedd, cofio ei fod yn dyfod adref gyda'i dad a'i fam ar ddydd Sabbath o dŷ ei nain, ar ol bod yn Ngwylmabsant Llanegryn, pan oedd rhwng tair a phedair mlwydd oed. Yr oedd hyn felly oddeutu y flwyddyn 1788.