a fforddolion dros amser maith. Pan oedd y Parch. Richard Humphreys a Mr. Williams, Ivy House, yn yr eglwys yn casglu at ddiddyledu y capelau, wedi traethu ar y mater, elai Mr. Humphreys o gwmpas i ofyn am addewidion, ac meddai, yn ei ffordd wreiddiol ei hun, Wel, money now, John; y chwi sydd i addaw gyntaf!" "Mae fy oes bron wedi dirwyn i'r pen," ebe yntau, "gwell i mi wneyd cymaint allaf," ac addawodd 10p. Ymwelai yn fynych âg Ysgolion Sabbothol y cylchoedd, i hyrwyddo eu sefydliad a'u dygiad ymlaen, ac i ddysgu yr ysgolion i ddarllen yn gywir, trwy gadw at yr atalnodau, a rhoddi y pwysleisiad yn briodol wrth ddarllen, ar yr hyn bethau y rhoddai ef bwys mawr.
Un o drigolion hynaf Corris a ddywed ei fod yn ei gofio yn ymweled â'r Ysgol Sul yno, ac iddo ar y diwedd alw holl ddynion yr ysgol ynghyd yn un cylch mawr, er mwyn eu profi yn gyhoeddus mewn darllen; a phan y byddai un yn methu, rhoddai gyfle i'r lleill ei gywiro, ac elai y rhai fyddent yn methu i lawr yn y rhestr, a'r rhai fyddent yn cywiro i fyny, a'r goreu am ddarllen, o angenrheidrwydd, a safai ar ben y rhestr yn y diwedd. Efe oedd ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn y dosbarth, a pharhaodd yn ei swydd nes iddo fethu gan henaint. Aeth llawer o'i lyfrau a'i bapurau ar goll, ac felly collwyd cyfrifon yr ysgolion am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Ond daeth ychydig o'i ysgrifau i'r golwg yn ddiweddar, y rhai oeddynt wedi eu trosglwyddo i ofal y diweddar G. Pugh, Berthlwyd. Cedwid y rhai hyn mewn bag bychan o groen gwyn, pwrpasol at ei gario o amgylch, ac yn ysgrifenedig o'r tuallan iddo—"Llyfrau, Pynciu, &c., i'r Ysgolion Sabbothol, J. J." Holwyddoreg ydyw y rhan fwyaf o'r rhai hyn, yn cynwys canoedd o ofyniadau ar wahanol bynciau, megis Dirwest, y Swper Sanctaidd, Gweddi, &c., ac amryw ganeuon ar faterion Ysgrythyrol. Ceir hefyd ymhlith papyrau L. Williams, Llanfachreth, amryw o'i lythyrau, y rhai a ddangosant y dyddordeb a gymerai yn achos yr eglwysi cylchynol.