Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/301

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yr ydoedd ef yn un o'r siaradwyr a'r trefnwyr yn y Cymdeithasfaoedd Chwarterol yn ei ddydd.

Un peth, modd bynag, a dynai dipyn oddiwrth ei liaws rhagoriaethau ydoedd, afrywiogrwydd ei dymer. Dywedid y byddai yn un pur lym a garw yn ei ffordd, yn enwedig gyda'r plant yn yr ysgol ddyddiol. Un o brif erthyglau credo ysgolfeistriaid ei oes of oedd, bod yn rhaid defnyddio y wialen fedw. Aeth ef rai troion i eithafion pell gyda'r mater hwn, ac oherwydd iddo gael y gair o fod yn curo y plant, atelid rhai rhag myned i'r ysgol ato. Ceir arwyddion hefyd ei fod am ei ffordd ei hun i raddau gormodol gyda dygiad yr achos ymlaen yn rhai o'r eglwysi cylchynol. Cafodd llawer o'r rhai fu yn ei wasanaeth fel gweision a morwynion, mae'n wir, le da i feithrin eu crefydd, ond nid oedd ef yn un o'r rhai tirionaf bob amser tuag at ei wasanaethyddion. Yr oedd yn ddiwrnod ympryd unwaith, ac aeth y gwas, sef Evan Morris, y pregethwr, ato yn y boreu, a gofynodd: "Beth gaf i'w wneyd heddyw?" Amser dyrnu ydoedd. "Wel," ebe yntau, "beth wyt yn feddwl a wnei di: mae yn anodd i ti wneyd dim byd yn well i ymprydio na myned i'r 'sgubor i ddyrnu."

Ond er y ffaeleddau hyn, bu o wasanaeth mawr i grefydd yn ei oes, safai yn uchel yn marn ei gydoeswyr, a choffheir ei enw yn fynych hyd heddyw gan yr hen bobl. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru am dano,—"Ymysg eraill a fu yn ddefnyddiol yn y parthau hyn, y mae yn deilwng gwneuthur sylw arbenig o'r hybarch John Jones, Penyparc, yr hwn sydd wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur er's blynyddoedd rai. Fe fu y gŵr hwn yn cadw ysgol am faith flynyddau. . . . Rhoddid iddo gyfleusdra yn y modd yma i egwyddori a rhybuddio plant ei ardal; defnyddiodd yntau y cyfleusdra, bu yn ddiwyd a ffyddlon dros amser maith gyda'i orchwyl; a bendithiwyd ei lafur mewn llawer dull, ac i lawer un o'r trigolion." Golygydd y Traethodydd, y diweddar Barch. Roger Edwards, a wnaeth y sylw canlynol am dano yn y