Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffyddlon. "O fy mywyd diffrwyth!" meddai yntau. "Yr oedd y wlad yma fel anialwch pan y dechreuais i fy mywyd; gymaint o fanteision a gefais i wneyd daioni, ac mor lleied a wnaethum!" Y mae yr ysgrifen ganlynol ar gareg ei fedd yn mynwent blwyfol Towyn:—

COFFADWRIAETH

Am y diweddar John Jones, A. Y.,

Penyparc.

Yr hwn a ymadawodd a'r bywyd hwn

Y 27ain o Gorphenaf, 1846, yn 77ain oed.

Ac a gladdwyd yma mewn gobaith am orfoleddus

Adgyfodiad i fywyd a gogoniant tragwyddol.

"Efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer."

———————


Richard Jones, Ceunant, Abergynolwyn.

Yr oedd ef yn un o flaenoriaid mwyaf hynod ei oes ar gyfrif ei dduwioldeb, ei sêl grefyddol, a'i ddywediadau cynwysfawr. Perthynai i'r ail do o ffyddloniaid yr eglwys yn y Cwrt. Yr oedd yn ddyn yn ei fan pan y ganwyd Mary Jones, a phreswyllai y ddau yn yr un cwr o'r ardal. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1770, a bu fyw nes yr oedd yn agos i 80 oed. Nid oes wybodaeth pa bryd y daeth at grefydd, na pha bryd y gwnaed ef yn flaenor. Sicr ydyw ei fod yn ddyn pwysig yn yr ardal yn lled gynar, canys yr oedd gofal yr Ysgol Sul arno cyn 1816. Yr oedd hefyd wedi clywed a gweled â'i lygaid fawrion weithredoedd Duw yn nechreuad crefydd yn yr ardaloedd cylchynol, fel y rhai hyny o genedl Israel a welsant bethau anhygoel yn yr Aifft, ac yn y Môr Coch. Asiedydd (joiner) oedd wrth ei gelfyddyd. Ac y mae dywediad tarawiadol o'i eiddo pan yn dilyn ei waith fel y cyfryw wedi myned yn hysbys trwy Gymru er's llawer blwyddyn. Dengys y dywediad fel y mae y duwiolion yn crefydda, ac yn mwynhau crefydd yn yr adegau mwyaf prysur gyda'u gorch-