Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/304

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wylion beunyddiol. Yr oedd Richard Jones, a'i fab, un diwrnod yn llifio coed gyda'u gilydd ar y march lli, pryd y sylwai y mab ar ei dad yn chwerthin ar ganol llifio. "Beth yr ydych yn chwerthin, nhad?" gofynai y mab. "Gweled yr Arglwydd Iesu yr oeddwn," ebe yntau, "yn dadleu ac yn ymresymu gyda y Phariseaid a'r Saduceaid, ac yn eu concro nhw i'r llawr bob tro."

Hynodid ef tu hwnt i'r cyffredin, hyd ddiwedd ei oes, gan fywiogrwydd, a zel, a duwiolfrydedd. A'r lle y deuai ei fywiogrwydd a'i zel i'r golwg yn fwyaf neillduol fyddai yn yr Ysgol Sul, a chyda'r plant. Gwnelai ei hun yn blentyn gyda'r plant, yn hen wr dros ddeg a thri ugain oed, a'i ymadroddion gyda hwy fyddent yn debyg i'r rhai hyn,—"Dowch y mhlant bach i, chwareuwch ati hi; ymroddwch i ddysgu gymaint fyth a alloch; yr ydych yn blant da, y plant goreu welais i erioed a'm llygaid." Yr oedd mewn blinder mawr un adeg wedi clywed fod tŷ yn yr ardal heb yr un Beibl ynddo. "Tŷ heb yr un Beibl ynddo yn ardal y Cwrt," meddai yn gyhoeddus yn yr Ysgol Sul, "fu 'rodsiwn beth a hyn! Beth a wnawn ni? Rhaid i ni fyn'd a Beibl yno rywsut." Aed ar unwaith o gwmpas i geinioca, a rhoddwyd Beibl yn y tŷ hwnw.

Perthynai iddo ddiffuantrwydd a phlaendra yr hen bobl i'r graddau pellaf. Dywedai yn blaen a didderbyn-wyneb ffaeleddau a diffygion ei gymydogion. Yr oedd ei wraig, hefyd, o gyffelyb feddwl ac ysbryd, a gwnaeth y ddau lawer i ddarostwng drwg arferion y gymydogaeth. Gwr cyfrifol yn yr ardal a ddywedai ar ol ei farw: "Yr oedd genyf barch mawr i Richard Jones; yr oedd ef yn dweyd pethau wrthyf yn blaen yn fy ngwyneb."

Yr oedd Mr. Evans, Maesypandy, amaethwr lled fawr yn yr ardal, wedi mabwysiadu syniadau y Plymouth Brethren, a lledaenai y cyfryw syniadau ymhlith yr ardalwyr, a thrwy hyny yr oedd wedi cynyrchu, i ryw fesur, deimladau gwrth-weinidogaethol. Achosai hyn flinder i Richard Jones. Parhai Mr.