Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/305

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans i'w blagio, trwy ddweyd fod arno eisiau i'r holl enwadau fod yn un; dioddefai yntau hyn oll yn dawel, gan ei fod fel gweithiwr yn dibynu tipyn ar y gŵr uchod am ei fywoliolaeth. Rhyw dro, yn nghanol cwmpeini lliosog amser cneifio, elai Mr. E. dros yr un peth, a gwnelai helynt fawr o gael yr holl enwadau yn un. "Hwyrach, wir, Mr. E., mai chwi sydd yn eich lle," ebai R. J., "ond yr wyf fi yn meddwl mai yn llwythau yr ydym i fod: pawb yn ol ei lwyth, a than ei luman ei hun. Yn debyg iawn fel y mae y ffermydd yma. Oni fuasai un ffarm fawr yn beth rhyfedd iawn? Gwartheg pawb wedi dyfod at eu gilydd; buches pawb, teirw pawb, lloi pawb, defaid a geifr pawb; oni fuasai yn anodd iawn gwybod pru'n fuasai pru'n, ac eiddo pwy fuasai pwy. Yr wyf fi yn credu mai fel y maent y mae hi oreu, digon o gloddiau a gwrychoedd rhwng ffermydd pawb."

Yr oedd ganddo ffydd fawr mewn Rhagluniaeth, a deuai y ffydd hono i'r golwg wrth gyfranu at achosion crefyddol. Yr oedd ef ac un arall unwaith yn casglu at Gymdeithas y Beiblau, yn agos i le yn yr ardal a elwir Craig y Deryn. Mewn tŷ yn y lle hwnw, dywedai mor dda ar gyfranu at achos crefydd, fel yr oedd wedi dylanwadu ar ŵr y tŷ. Teimlai y gŵr awydd i roddi y goron olaf oedd ganddo, ond dywedai fod arno ei heisiau i dalu y dreth. "Wel, os felly y mae hi," ebe R. J., "dyro hi y ngwas i; trystia y gŵr; gad rhwng y gŵr â'r dreth." Felly fu, fe'i rhoes hi. Dranoeth, daeth boneddwr a boneddiges heibio, a gofynasant i'r gŵr a roddodd y goron yn y casgliad ddyfod gyda hwy i'w harwain i ben Craig y Deryn, a rhoddasant ddau haner coron iddo. Fel hyn, cafodd y gŵr y goron yn ol ar ychydig iawn o drafferth. Yn yr un seiat ag y bu ef yn gweddïo y weddi ryfedd hono yn ei dechreu, y coffhawyd am dani yn hanes eglwys y Cwrt, yr oedd hen chwaer grefyddol yn dweyd ei phrofiad. Yr adnod a adroddai yn brofiad ydoedd, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." A chwynai yn fawr oherwydd ei chalon