Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/306

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddrwg, a'i meddyliau crwydredig. Dyma Richard Jones i fyny yn union, a dywedai, "Ie, yn wirionedd i, fel yna y mae hi yn bod, mae pawb o'r saint yn teimlo yr un peth; ond, wyt ti yn peidio rhoddi lle i'r meddylian ofer, Gweno bach? Mae acw ddwy goeden yn ymyl ein tŷ ni, ac mae y brain yn dyfod iddynt i nythu o hyd. Fedra' i ddim eu cadw nhw oddiacw, ond mi fyddaf yn ceisio fy ngoreu eu rhwystro i nythu acw. Wyt ti yn ceisio rhwystro i'r meddyliau ofer yna lochesu, a chael lle i nythu ?"

Meddyliodd unwaith am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd fel blaenor yn gostio iddo. Prynodd lyfr, ac yr oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth oedd yn ei roddi i'r pregethwyr a letyant yn ei dŷ.. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," meddai wrtho ei hun, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finau ddim." Ac felly fu, ni roddodd un ddimai i lawr yn y llyfr ar ol ei brynu.

Adroddai Mr. John Griffith, Abergynolwyn, ei fod yn ei gofio yn dda y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, llai na phythefnos cyn ei farw, ei fod mewn hwyl nefolaidd a Seraphaidd. Cyfarfod gweddi oedd yno, a dangosai yr hen ŵr ei bod hi yn orfoleddus ar ei enaid. Yr oedd wedi cael gafael yn y penill a genid, a dechreuai ail fyned drosto drachefn a thrachefn. Nid dwywaith a theirgwaith, ond seithwaith, a mwy na hyny, yr elai dros linellau olaf y penill, a neidiai i fyny bob tro wrth ail ddechreu. Pan yn ymyl diwedd y llinell, gadawai i'r gynulleidfa fyned ymlaen, cymerai yntau ei wynt, a chyda eu bod wedi darfod, neidiai i fyny bellder oddiwrth y llawr, fel gŵr ieuanc wedi adnewyddu ei nerth, a chyfodai ei freichiau yn uwch na hyny tua nen y capel, gan ail ddechreu y linellau drachefn a thrachefn. Dyna fel y dibenodd addoli