Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/307

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Arglwydd ar y ddaear. Bu farw yn 1848, oddeutu 78 mlwydd oed. A dywedid ar y pryd, gan fod Richard Jones wedi marw y byddai farw achos y Methodistiaid yn y Cwrt. Ond profodd y dywediad fod dynion y pryd hwnw, fel bob amser, yn ffaeledig.

Humphrey Davies, Corris

Mae ei hanes ef yn fwy adnabyddus i'r oes bresenol nag odid yr un o'r diaconiaid y coffheir am danynt yn y benod hon, oherwydd ei fod wedi byw hyd yn lled ddiweddar, ac hefyd am fod bywgraffiad helaeth o hono wedi ymddangos eisioes. Ond nid ydyw rhestr y Blaenoriaid Hynotaf yn gyflawn heb iddo ef fod yn eu plith. Mab ydoedd i Dafydd Humphrey, blaenor cyntaf eglwys y Methodistiaid yn Nghorris, yntau hefyd yn flaenor hynod ac enwog. Ganwyd H. D. yn 1790, a theimlodd yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwl mewn diwygiad ymysg y plant, pan oedd yn 5 mlwydd oed. Ond er ei fod wedi ei fagu yn fucheddol ar yr aelwyd fwyaf crefyddol, ac er iddo deimlo argraffiadau crefyddol ar brydiau, ymhen tair blynedd ar ol iddo briodi, sef yn 1818, yr ymunodd ef a'i briod â'r eglwys. Gwelodd grefydd o'r fath oreu yn y teulu pan yn blentyn, a daeth at grefydd yn ngwres y Diwygiad mwyaf grymus a fu yn Nghymru erioed: nid rhyfedd gan hyny fod crefydd wedi gwreiddio yn ei natur. Dewiswyd ef yn flaenor cyn pen 18 mis wedi iddo ymuno â'r eglwys. Fel hyn y dywedir o berthynas i'r amgylchiad hwn yn Methodistiaeth Corris, gan y Parch. G. Ellis, M.A., "Yr ydym yn credu mai dyma y rhodd fwyaf a estynwyd gan Dduw i Fethodistiaeth Corris o hyny hyd yn awr. Bychain iawn oedd galluoedd a doniau y ddau swyddog oeddynt yno o'i flaen, sef ei dad, Dafydd Humphrey, a Richard Anthony, ac i'w law ef o ganlyniad y disgynodd ar unwaith y gorchwyl o borthi y praidd. Ac nid ydym yn credu y bu o'r dechreuad hyd yn awr adeg mor bwysig ar yr eglwys Fethodistaidd yn Nghorris a'r adeg hono, pan yr oedd ynddi uwchlaw tri ugain o ddychweledigion