Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/309

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daionus. yn ei ardal, fel Rhyddfrydwr ac Ymneillduwr trwyadl, fel dirwestwr, arweinydd yr Ysgol Sabbothol, ac un o brif gefnogwyr addysg ddyddiol. Er myned yn hen mewn dyddiau, parhaodd yn ieuengaidd ei ysbryd; symudai ymlaen gyda'r ieuenctyd, yn ei hen ddyddiau, fel llanc ieuanc ugain oed. Rhydd y modd y daeth yn ddirwestwr beth goleuni ar ei gymeriad, ac ychwanega glod at ei goffadwriaeth, oblegid fe welir yn eglur mai dyn ydoedd, nid yn caru ei leshad ei hun, ond lleshad llaweroedd. Ar y cyntaf, nid oedd yn zelog o blaid dirwest. Ond wrth wrando un yn areithio unwaith, ac yn darlunio y modd y bydd y pysgod yn yr afon yn fynych yn llechu yn nghysgod y gareg fawr, gwelodd y gymhariaeth, a phenderfynodd na byddai iddo ef byth fod yn gareg fawr i neb lechu yn ei gysgod. Ardystiodd ar unwaith, ac o hyny allan daeth y dirwestwr mwyaf zelog yn y wlad. Diameu na bu neb o ddechreuad Methodistiaeth hyd yn awr yn foddion i gyfodi crefydd yn y rhan yma o'r wlad yn fwy nag ef. Cyrhaeddodd ei ddylanwad trwy holl gylch y Cyfarfod Misol. Efe a'r Parch. Richard Jones, Wern, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i gymeryd llais eglwys Dolgellau, pan oedd y diweddar Barch. Roger Edwards yn dechreu pregethu, ac adroddai Mr. Edwards yn ddiweddar ar ei oes fod y geiriau canlynol a ddywedodd H. D. wrtho y noswaith hono wedi glynu yn ei feddwl byth,— "Gofalwch, fy machigen, am wneyd y ffordd i fod yn gadwedig yn glir iawn i bechadur ymhob pregeth. Cofiwch bob amser y gall rhywun fod yn eich gwrando am y tro diweddaf cyn myned i'r farn. Byddwch yn siwr o ddweyd digon am fywyd ymhob pregeth."

Ymadawodd â'r byd hwn Rhagfyr 26ain, 1873, ac efe uwchlaw 83 mlwydd oed. Yn ei angladd tywysogaidd, y Parch. J. Foulkes Jonas, B.A., Machynlleth, ymysg eraill, a wnaeth y sylwadau canlynol, "Gŵr yn caru Duw ydoedd,—gŵr heddychol a thirion, Un wedi llywodraethu yn dda; ac am hyny yn haeddu parch dau-ddyblyg. Dylem fod yn falch a diolch-