Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/310

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gar am rai o'r fath yma; ond nid yn aml y maent i'w cael. Nis gellid bod yn nghwmni Humphrey Davies am bum mynyd heb wybod fod achos Iesu Grist yn agos iawn at ei galon; ie, fel canwyll ei lygad. Gwnai y peth lleiaf. Fel y disgyblion gynt yn cyrchu ebol i'r Arglwydd Iesu, gwnaeth yntau yr un peth lawer gwaith."

Rowland Evans, Aberllefeni.

Un o gyfoedion Humphrey Davies, ei gymydog a'i gydlafurwr, wedi ei eni rhyw ddwy flynedd ar ei ol, a'i ragflaenu i'r orphwysfa oddeutu pedair blynedd. Genedigol ydoedd o Lanwrin, a chafodd fod am ychydig yn yr ysgol yn Nghorris gyda Lewis William. Cafodd y fraint unwaith o adrodd penod yn gyhoeddus i Mr. Charles, o'r Bala, yr hwn, meddir, a wnaeth y sylw ar y pryd, "Y mae rhywbeth yn y bachgen hwn." Yr oedd yn 18 oed pan y cafodd argyhoeddiad, ac wrth wrando y Parch. John Hughes, Pontrobert, yn pregethu yn Cemmaes, ar nos Nadolig, yn y flwyddyn 1810 y bu hyny. Dyma yr adeg y dechreuodd fod mewn trallod ynghylch mater ei enaid. Hynodid ef yn mlynyddoedd cyntaf ei grefydd fel un llafurus a gweithgar gyda yr Ysgol Sabbothol. Wedi priodi, ymsefydlodd am ryw dymor yn ardal Eglwys Fach, Sir Aberteifi, a phan oedd yn chwech ar hugain oed, dewiswyd ef yn flaenor yn nghapel y Graig.

Oddeutu 1822, neu y flwyddyn ddilynol, symudodd i Felin Aberllefeni, i gymeryd ei gofal dros Humphrey Davies, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Nid oedd eglwys wedi ei sefydlu yn Aberllefeni am flynyddau lawer wedi iddo ef fyned yno i fyw. Dewiswyd R. E. yn flaenor yn Nghorris, a bu ef ac Humphrey Davies yn hir yn gyd-swyddogion. Cydweithiai y ddau yn y modd goreu, a rhagorai y ddau ar flaenoriaid y wlad yn gyffredin. Eto, yr oeddynt yn ddau gymeriad gwahanol iawn i'w gilydd. Y naill yn llwfr ac ofnus, a'r llall yn ffyddiog a mentrus. Ond er hyny yr oedd