Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/311

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowland Evans yn ŵr cymwys iawn i gadw cyfarfod eglwysig. Yr oedd ei wybodaeth o'r Ysgrythyrau yn eang a thrwyadl; ei dduwioldeb yn ddwys, a'i argyhoeddiadau yn ddyfnion; ac heblaw hyny, yr oedd wedi gweled aml a blin gystuddiau, y rhai, yn ddiameu, oeddynt yn foddion i roddi min ar ei brofiad. ei hun. Cafodd eglwys Corris gewri i'w dysgu mewn pethau crefydd yn yr oes o'r blaen. . Ond yn Aberllefeni, yn ystod yr ugain mlynedd olaf ei oes, y daeth Rowland Evans yn fwyaf adnabyddus. Symudodd ef o Gorris pan yr oedd yr eglwys yn symud i fyny ac yn ymsefydlu yno gyntaf; yr oedd felly wedi cyd-dyfu gyda'r eglwys, ac ystyrid ef yn dad i'r achos ymhob modd. Mawr oedd gofal Rhagluniaeth yn trefnu un fel efe yn arweinydd i'r eglwys yn ei mabandod. Anhawdd oedd cael neb mwy cymwys a mwy diogel fel arweinydd. Yr oedd yn dduwinydd galluog, yn weddïwr mawr, ac yn areithiwr medrus. Mor siriol ac aiddgar y byddai yn gwrando y weinidogaeth. Mor ddeheuig ac effeithiol yn cymhwyso y gwirionedd yn yr eglwys. ar nos Sabbothau. Yr oedd sefydlogrwydd a dwysder ei gymeriad personol yn cario dylanwad mawr ar yr ardal, ond mwy na hyny, yr oedd yn siaradwr effeithiol ar bob peth mewn cysylltiad â chrefydd. Yr oedd son am dano ymhell ac yn agos fel pynciwr a holwyddorwr. Bu lawer gwaith yn ymweled â'r ysgolion ac yn areithio yn y Cyfarfodydd Ysgolion, ac yno yr oedd wedi hen enill y cymeriad o ddyn trwm, os nad y trymaf oll o y cylch, yn yr athrawiaeth. Yr oedd ei ddull arafaidd ac ofnus yn rhwystr iddo fod yn arweinydd oddicartref, ond fel areithiwr ar fater neu bwnc, nid oedd neb a'i curai. Ond gartref y deuai ei ragoriaethau ef i'r golwg, yn ei ardal a'i eglwys ei hun. Safai yn wrol dros y gwirionedd a thros ddisgyblaeth eglwysig; gofalai yn dyner am y bobl ieuainc; rhoddai gysur a phob ymgeledd i'r hen a'r methedig. Edrychid i fyny ato hyd ddiwedd ei oes yn Aberllefeni fel tywysog. Ond bu yntau farw ar yr 11eg o