Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyddol, am 60 mlynedd. Yr oedd yn berchen gwybodaeth eang am bersonau a phethau, ac am amgylchiadau y byd yn gyffredinol. Yr oedd tuedd ei feddwl yn athronyddol, hoffai wybod y paham a pha fodd am bob peth. Cyrhaeddodd ei wybodaeth trwy ddarllen, a thrwy sylwi a myfyrio llawn cymaint a hyny. Tueddai yn naturiol at fod yn bwyllus ac arafaidd, ac nid yn fuan yr ymgymerai ag unrhyw anturiaeth heb wybod yr hyn a ellid ol a blaen iddi. Ond coron ei ragoriaeth oedd ei grefydd. Daliodd ei grefydd bob tywydd, ac yr oedd tua'r diwedd yn addfedu fwy fwy i'r wlad well. Yr oedd yn Gristion, llenor, duwinydd, a chrefyddwr da. Bu yn arwain y canu yn Aberdyfi I am flynyddau meithion, hyd nes iddo ballu gan henaint. Pan oedd yn ei lawn nerth gyda chaniadaeth y cysegr yr oedd yn un o'r rhai goreu yn y wlad byddai son mawr am dano ymhell ac agos. Yr oedd dau beth sydd i'w cael ond pur anfynych mewn cerddor wedi cydgyfarfod ynddo ef—cryfder a pheroriaeth. Byddai yn well gan lawer ei glywed ef yn canu, na chlywed chwareu ar yr organ oreu. Llafuriodd lawer pan yn ieuanc gyda chaniadaeth y cysegr, ynghyd â holl amgylchiadau yr achos. Wedi rhanu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, yn 1840, mae ei enw i'w weled yn fynych ar bwyllgorau mewn cysylltiad a Chyfarfod Misol y Pen Gorllewinol. Bu farw nos Sabbath, Ebrill y 12fed 1885, yn agos a chyraedd pen ei flwydd o 85 oed.

William Rees, Towyn

Genedigol oedd ef o Ddolgellau, ac yr oedd yn frawd i'r diweddar R. O. Rees. Dilynai y society pan yn blentyn gyda'i frawd a'i chwiorydd, ond fel llawer plentyn arall, aeth allan. Dygwyd ef i fyny yn egwyddorwas gyda Mri. Williams a Davies, Dolgellau. Wedi bwrw ei brentisiaeth, aeth am ychydig i Manchester, wedi hyny i Liverpool. Yn Liverpool y daeth i'r seiat. Yr oedd yr house-keeper lle y lletyai yn grefyddol, ac yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig y noson yr ymunodd ef