Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â'r eglwys, a gwnaeth iddo gadw dyledswydd y noson hono, i'r hyn yr ufuddhaodd. Collodd ei iechyd, a daeth adref i Ddolgellau. Gan dybio y buasai Towyn yn lle manteisiol i ddyn ieuanc gwanaidd ei iechyd, gosodwyd ef i ofalu am siop oedd gan Mri. Williams a Davies yn y lle. Dyma y ffordd yr arweiniodd Rhagluniaeth ef i Dowyn. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1834. Ymhen amser ymgymerodd â'r fasnach ei hun, ac ar ol hyn daeth i gysylltiadau crefyddol drachefn, trwy ymbriodi â Miss Jones, merch i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Y mae Mrs. Rees yn aros hyd y dydd hwn, ac yn parhau i ddangos llawer o garedigrwydd at achos y Gwaredwr. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi iddo ddyfod i Dowyn dewiswyd ef yn flaenor yr eglwys, ac efe yn ddyn ieuanc tua 23 oed. Yr amcan, mae'n ymddangos, i'w ddewis 'mor ieuanc oedd, am y tybid y byddai yn gymorth i gadw cyfrifon, gan ei fod wedi cael addysg, canys nid oedd yr hen flaenoriaid oedd yn Towyn yn medru ar lyfr. Troes ef allan, modd bynag, yn flaenor rhagorol, nid i gadw cyfrifon yn unig, ond i gario pobpeth crefydd ymlaen, ac i fod ar y blaen gyda'r achos yn ei holl ranau. Daeth allan ar unwaith fel dyn hollol ymroddedig i waith yr Arglwydd yn y rhan yma o'r wlad. Ac efe a gadwodd y blaen hyd oni luddiwyd ef gan angau i barhau.

Yr oedd ynddo ragoriaethau fel dyn na cheir mo honynt ond anfynych mewn byd nac eglwys. Nis gellir mewn crynhodeb fel hyn o'i hanes ond nodi y prif rai o honynt. Hynodid ef o ran harddwch ei ymddangosiad. Yr oedd yn ddyn tal, lluniaidd, a boneddigaidd yr olwg arno; siriol ei wynebpryd, ystwyth ei ysbryd, serchog ei ymddiddanion. Yn berffaith onest a chywir yn ei fasnach; yn nodedig o gymwynasgar i'w gymydogion; yn ffyddlon i'w rwymedigaethau—gadawai helyntion a thrafferthion masnach os byddai rhywbeth yn y capel, ac yno ag ef, bydded a fo. Yn niwedd ei oes, wedi rhoddi ei fasnach heibio, yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu crefydd yn ei holl gylchoedd. Fel engraifft o'i benderfyniad i