Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/317

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pwysicaf y sir, ac yn llenwi y lleoedd uwchaf a berthynai i'w swydd; a thua deugain mlynedd yn ol yr oedd ef a dau eraill o flaenoriaid y dosbarth (un o ba rai sydd eto yn fyw) yn dywysogion ymysg henuriaid yr eglwysi, ac ystyrid Mr. Rees yn dywysog wedi myned o hono yn hynafgwr. Bu yn gwasanaethu ar ran y Feibl Gymdeithas yn Nhowyn a'r ardaloedd cylchynol am flynyddoedd lawer. Efe a osodwyd yn drysorydd yr Achos Cenhadol o fewn cylch y Cyfarfod Misol ar ol dydd Mr. Williams, Ivy House, ac yr oedd gwaith y swydd hon yn hynod gydnaws â'i ysbryd. Pan fyddai eisieu dweyd gair o blaid y genhadaeth yn y Cyfarfod Misol, rhoddai ef ar unwaith dân yn y cyfarfod gyda'i eiriau gwresog; ac un o'r pethau olaf a ddywedodd wrth Mr. Griffith, Dolgellau, cyn marw ydoedd, "Gwnewch gymeryd gofal o'r Achosion Cenhadol yn ein rhan ni o Sir Feirionydd." Efe oedd un o'r rhai a anfonid yn fynych i ymweled âg eglwysi y sir, ac nid oedd neb a gaffai rwyddach derbyniad yn yr eglwysi, na neb ychwaith a wnai y gwaith yn fwy pwrpasol a thrwyadl. Yr oedd ef a'r Parch. Robert Parry, wedi bod unwaith yn ymweled âg eglwysi Ffestiniog, ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, rhoddent adroddiad o'r ymweliad. Galwai ei gyfaill ar Mr. Rees i ddechreu, ac fel hyn y dechreuodd,—"Cawsom fyned i weled y chwarel fawr hono, ac yno yr oedd y gweithwyr yn gweithio, rhai yn curo, rhai yn rhoi powdwr yn y tyllau. Ond er yr holl weithio yr oedd yn rhaid cael y tân cyn y gellid chwalu dim ar y graig; y tân ar y powdwr oedd yn dryllio ac yn chwalu y graig i lawr. Felly ninau, rhaid i ni gael y tân o'r nefoedd; wnawn ni ddim byd o honi hi heb y tân; ond os cawn ni y tân i lawr, hwnw wnaiff y gwaith." Yr un ffunud â Mr. Rees! Wedi'r cwbl, dywediadau ac ymadroddion dyn ei hun ydyw y desgrifiad goreu oll o hono.

Mewn erthygl yn y Goleuad, yr wythnos gyntaf ar ol ei farw, darllenir "Y lle yr oedd ef yn disgleirio fwyaf gloew a chyson o bob man ydoedd yn y cynulliadau eglwysig, a'r