Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/318

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarfodydd gweddïau gartref. Dyma beth sy'n wybyddus i'r holl eglwys y modd y bu yn eu cynghori, ac yn eu cysuro, bob un o honynt, fel tad ei blant ei hun. Er mwyn i'r rhai oedd heb ei adwaen gael rhyw engraifft o'i ddywediadau, cymerer y rhai canlynol:— "O na wyddwn pa le y cawn ef,' meddai Job. Yr oedd ef ar y pryd wedi colli ei ychain, a'i ddefaid, a'i gamelod, a'i weision, a'i feibion, a'i ferched; ond nid oedd Job yn gofyn am gael ail afael yn yr un o'r rhai hyn, ond 'O na wyddwn pa le y cawn ef. Yr oedd yn teimlo y byddai ar i fyny wed'yn ond cael ail afael ar ei Dduw." Adeg arall, dywedodd, "Mynwch, fy mhobl anwyl i, ddyfod i berthynas â Duw fel plant iddo. Peth yn dal ydyw perthynas. Pan oeddwn i yn fachgen, byddwn yn digio fy mam, ac yn ei gorfodi i fy ngheryddu; ond waeth i chwi beth, yr oedd y berthynas yn dal." Dro arall, wedi i weinidog adrodd ei fod yn clywed fod llawer yn cael eu dychwelyd mewn rhyw fan o'u ffyrdd drygionus at yr Arglwydd, a hyny trwy offerynau distadl iawn, a'i fod yn ofni nad oedd ef yn cael y fraint o ddychwelyd neb. "Wel," ebai Mr. Rees, rhaid i chwi gofio fod Penarglwyddiaeth yn y peth. Ond wed'yn, un gwaith ydyw tori y coed i lawr, peth arall ydyw eu llifio, a'u plaenio, a'u haddurno, a'u gwneyd yn ddodrefn, a'u polisho yn fit i'w dangos mewn drawing room; ac os nad ydych chwithau yn cael y fraint o dori y coed i lawr, pwy wyr na bydd llawer o ddodrefn y drawing room above ag ôl eich gwaith chwi arnynt." Yn y society nos Sul, ar ol y bregeth, adeg arall, dywedai, "Mor barod ydyw y Brenin Mawr i roddi i ni y pethau sydd arnom eisiau; mae y tad yn dangos yr afal i'r plentyn bach—afal brongoch, braf, yn ei droi, ac yn ei ddal rhwng ei fysedd, er mwyn i'r plentyn bach fod yn fwy awyddus am dano. Felly y mae ein Tad nefol yn dangos y bendithion, ac yn eu cymell hwy i ni, yn eu codi hwy i fyny yn y moddion a'r weinidogaeth, er mwyn ein cael ni yn awyddus i'w ceisio." Gwnaethpwyd sylwadau er coffadwriaeth am dano yn y Cyfar-