Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flynyddol, yn mis Awst, rhwng y ddau gynhauaf. Yr oedd hefyd redegfa ceffylau enwog wedi ei chysylltu â'r wyl hon, er mwyn bod yn fwy o gyrchfa pobl, ac i fod yn brif ddigwyddiad y flwyddyn. "Yn mhen blwyddyn wedi hyn," adroddai Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ganddo ef ei hun, "sef yn mis Awst, 1789, aethum i Fachynlleth, i'r Wylmabsant a'r rhedegfa ceffylau a gynhelid yno yn flynyddol; a dyma y pryd y cyfarfum â thro digyffelyb, ie, tro a gofiaf byth." Cyfeirio y mae y "tro digyffelyb" at ei dröedigaeth. Yr oedd yn dyfod i lawr heol y Maengwyn, pryd y clywai sŵn canu gwresog. Diweddu odfa yr oeddynt mewn tŷ yn y fan hono, a Dafydd Morris oedd y pregethwr. Aeth saeth lem i galon. Lewis Morris wrth glywed y canu, yr hyn a fu yn ddechreuad ei dröedigaeth. Yr ydym yn gweled fod gwylmabsantau yn bethau cyffredin yr adeg yma, a byddai hen ac ienainc yn eu mynychu. Yr oedd amaethwyr penaf Llanerchgoediog yn myned iddynt; yr oedd rhieni Owen Williams yn myned iddynt, a'u plant gyda hwy. Ac ni feddai rhieni well esiampl i'w roddi i'w plant na'r hyn oedd yn peri y difyrwch penaf iddynt hwy eu hunain.

Hen arferiad fu yn flodeuog a phoblogaidd yn yr hen amser oedd rhedegfeydd ceffylau. Cynhelid y cyfryw redegfeydd bob blwyddyn ar wastadedd, a elwir Morfa Towyn. Byddai llawer o gyrchu iddynt, llawer o greulondeb yn cael ei arfer at geffylau druain, a llawer o annuwioldeb ymhlith y cynulliad a ymgynullai ynghyd ar y cyfryw amseroedd. Parhaodd yr arferiad flynyddol hon i oroesi llawer o arferion creulon a thywyll yr oes o'r blaen. Y mae llawer yn fyw yn y wlad yn awr yn cofio yn dda y rhedegfeydd ceffylau ar Forfa Towyn, ac ar wastadedd Aberdyfi. Cymerodd digwyddiad le yn un o'r rhedegfeydd hyn, sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth, sef tröedigaeth hynod John Vaughan, Ysw., Tonfanau, neu Tryfana, wedi hyny o Cefncamberth. Yr oedd ef yn uchelwr, yn un o'r rhai mwyaf ei barch yn yr ardaloedd, yn ŵr o gyngor, ac yn fedrus