Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn amser Diwygiad Beddgelert. Gwasanaethu yr oedd ar y pryd yn ardal Rhiwspardyn. Yr oedd yr hen ŵr, ei feistr, yn greulon yn erbyn iddo fyned i'r society. Rhoddai glo ar ddrws y tŷ, a bu raid i Hugh fyned i'r beudy i gysgu lawer noswaith, yn ol ei dystiolaeth ei hun, am ei fod yn dewis dilyn pobl yr Arglwydd. Ymhen blynyddoedd wedi hyn, bu yn gwasanaethu mewn awyrgylch dra chrefyddol, gyda Dafydd Humphrey, Abercorris, ac yn Tyddyn Meurig, gydag Owen Evans, dau o brif grefyddwyr y wlad. Cafodd ei briod ei dwyn i fyny yn sŵn crefydd o'i mebyd, a dygwyd hi tan ddylanwad crefydd yn foreu, a hono yn grefydd rymus y diwygiad. Ar ol chwe' blynedd o'u bywyd priodasol, aeth y ddau i fyw i'r Tyno, Abertrinant. Nid oedd neb yn flaenor yn yr eglwys hono pan yr aethant yno. Yn Llanegryn, Mai 25ain, 1840, derbyniwyd Hugh Owen yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Abertrinant. Bu yn yr ardal hono 18 mlynedd yn wasanaethgar i achos crefydd. Yn 1851, symudodd i Maethlon, i fyw i dŷ y capel, a bu yno drachefn 20 mlynedd. Nid oedd nifer yr aelodau eglwysig yn Maethlon y flwyddyn y symudodd ef yno ond wyth. Ychydig Sabbothau yn flaenorol i'w symudiad yno, yr oedd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd wedi ei gweinyddu i ddim ond pedwar. I fyny ac i lawr yr oedd yr achos wedi bod yn Maethlon er's rhai degau o flynyddoedd; ac wedi iddo ef fyned yno y dechreuodd pethau ddyfod i drefn. Un o ragorolion yr oes sydd wedi myned heibio ydoedd Hugh Owen. Cariai nodweddion yr oes hono i lawr i'r oes bresenol yn ei berson ei hun fel Cristion yn gystal ag fel swyddog eglwysig. Yr oedd ei argyhoeddiadau crefyddol yn ddyfnion, tuhwnt i'r cyffredin, a'i wybodaeth o grefydd a'i hegwyddorion o radd uchel. Gwyddai yn dda pa beth oedd bod o dan Sinai ryw adeg ar ei oes; gwyddai gystal a hyny pa beth oedd dianc at y groes. Yn ei ddull o wrando yr efengyl, ac yn ei brofiadau yn y cyfarfodydd eglwysig, ceid gweled yn eglur fod yr awelon lleiaf o Galfaria yn cynhyrfu ei holl natur,