Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/324

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byddai ei lygaid yn gochion wrth wrando y weinidogaeth, oherwydd ei lawenydd anrhaethadwy yn clywed am drefn gras yr efengyl. Gwledd i'r gwrandawyr ac i'r llefarwr fyddai edrych arno ef yn gwrando. Yn y cyfarfod eglwysig drachefn, byddai yn ei lawn elfen, fel pysgodyn yn y môr, pan y clywai rai o'r brodyr a'r chwiorydd yn canmol yr iachawdwriaeth fawr a'r prynedigaeth trwy Grist. Ei air neillduol yn y cyfarfod eglwysig fyddai "Y Cyfryngwr Mawr." Unwaith y caffai afael yn yr ymddiddan, clywid ef cyn y diwedd yn myned at ei Waredwr, ac yn dyfod a'i hoff ymadrodd allan drachefn a thrachefn, gyda chynhesrwydd a gynhesai y cyfarfod oll, Y Cyfryngwr Mawr, y mhobol i."

Fel blaenor eglwysig, yr oedd yn engraifft deg o'r stamp oreu o'r hen flaenoriaid, yn enwedig y rhai hyny a fu yn gofalu am eglwysi bychain y wlad. Nid yn y cyhoedd y rhagorai, ond yn ei gylch cartrefol, yn ei ofal neillduol am y praidd yn ei eglwys ei hun, am fod yn bresenol ymhob cyfarfod er esiampl i eraill, am ei gynghorion a'i rybuddion, am fyned ar ol y rhai crwydredig, am gael pawb yn yr ardal i broffesu crefydd, ac i rodio yn gyson a'u proffes. Byddai ganddo yn wastad rywbeth i'w ddwyn i sylw y gweinidog a'i gyd-swyddogion am hon a hon, neu hwn a hwn, yn yr eglwys, neu yn y gynulleidfa. Fel yr hen flaenoriaid, tueddu y byddai at fod yn fanwl a llym mewn disgyblaeth. A byddai weithiau yn lled arw a gerwin yn ei ymadroddion. Yr oedd geneth o forwyn o dan ddisgyblaeth yn yr eglwys un tro, oherwydd iddi fyned ar gyfeiliorn gyda rhyw drosedd neu gilydd; ac ar ol galw sylw at ei hachos, yr oedd y cwestiwn o flaen yr eglwys pa beth a wneid iddi. "Y mae hi yn llefain (wylo) yn arw," ebe Thomas James, y blaenor arall, "feallai fod hyn yn ddigon iddi; nid aiff ddim yr un ffordd eto." "Dwn i pru'n," ebe Hugh Owen, yr oedd Orpah yn wylo, ond yn ol i'w gwlad yr aeth hi wed'yn." Hawdd iawn fyddai gan bawb basio heibio y gerwindeb oedd ynddo gan mor amlwg oedd ei