Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grefydd. Dygodd ei blant i fyny yn rhai cryfion fel yntau yn egwyddorion yr efengyl. Bu yn foddion yn ei oes, trwy rybuddio a chynghori, i gadw llawer rhag cerdded y ffordd lydan. Er ei fod yn perthyn i'r hen dô o flaenoriaid, yr oedd mor ystwyth ei farn fel yr ymgymerai gyda phob parodrwydd â phob symudiad newydd gyda chrefydd. Cariai feddwl uchel am ddynion blaenaf ein Cyfundeb, am y Gymdeithasfa, a'r Cyfarfod Misol, ynghyd a'u holl drefniadau. Prawf o hyn ydoedd y byddai bob amser y deuai yr ymwelwyr heibio, yn trefnu i ddarparu yn neillduol ar eu cyfer, trwy baentio neu wyngalchu y capel, neu gael rhywbeth newydd oddifewn neu oddi-allan i'r adeilad, a derbyniai hwy fel angylion ac fel goruchwylwyr ar etifeddiaeth Duw. Arferai, hefyd, fyned i gyfarfod y pregethwr. Llawer a ddangosant ffyddlondeb trwy fyned i ddanfon y pregethwr yn ei ffordd tuag adref wrth ymadael; ond elai Hugh Owen ar drot i'w gyfarfod, gan ei gyfarch gyda haner gwehyriad, a'i arwain yn groesawgar i dŷ y capel. Symudodd cyn diwedd ei oes i Benrhyndeudraeth, a dewiswyd ef yn flaenor yn y Pant. Bu farw yn orfoleddus yn 1875, yn 71 mlwydd oed.

William James, Maethlon.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806, yn ardal Ponterwyd, Sir Aberteifi. Bugeilio defaid oedd ei waith yn nechreu ei oes; a thra wrth y gwaith hwnw ar y mynydd, pan yn llanc 18 oed, yr argyhoeddwyd ef. Wedi ymsefydlu yn y byd, a dechreu cadw teulu, symudodd i fyw i ardal y Graig, yn agos i Glandyfi. Yno y dechreuodd ei grefydd ddyfod i'r golwg mewn gweithgarwch digyffelyb, yr hwn a barhaodd yn ddiflino hyd derfyn ei oes. Cymeriad gloew ydoedd, yn dal yn loew o ba cyfeiriad bynag yr edrychid arno, a rhagorai mewn llawer o bethau, mewn gwybodaeth drwyadl o'r Ysgrythyrau, mewn duwioldeb personol, mewn haelioni crefyddol, mewn gweithgarwch gyda holl wasanaeth crefydd. Gwnaeth y goreu o'r