ebe yntau, "gyda Mr. James, teulu caredig iawn ydynt hwy." "O ie," atebai Mr. Humphreys, "hynod iawn—they are made to be civil." Yr oeddynt ill dau wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac y mae yr hanes canlynol am danynt wedi cyraedd adref i Bennal i'w weled yn Nghofiant Mr. Humphreys—"Yr oedd ef ac un o flaenoriaid eglwys Pennal wedi bod yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, a bu ymdriniaeth helaeth yn y cyfarfod hwnw ar y fugeiliaeth a chynhaliaeth y weinidogaeth; teimlodd blaenor yn ddwys, ac aeth adref a'i galon yn llosgi o zel dros y fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig dechreuodd roddi adroddiad, ac wrth ei glywed mor zelog ofnai Mr. Humphreys i'w zel wneyd niwaid i'r achos, gan y gwyddai nad oedd pawb yn yr eglwys yr un deimlad â hwy eu dau; a phan y clywai Mr. E., y blaenor, yn poethi wrth roddi ei adroddiad, dywedai yn ei ddull tawel ei hun, 'Gently William, gently'. Yna, arafai Mr. James am fynyd; ond ail dwymnai ei ysbryd drachefn, a dechreuai lefaru yn arw. Gwaeddai Mr. Humphreys eilwaith, 'Gently, gently, William;' a dyna lle y bu y ddau—y blaenor yn gyru, ac Humphreys yn dal rhag iddo fyned ar draws y rhai oedd yn methu symud yn ddigon buan o'r ffordd." Mewn canlyniad i'r drafodaeth hon, cyfododd W. James yn swm ei daliad misol at y weinidogaeth, ac ni thynodd byth yn ol, ond yn hytrach elai ymlaen beunydd yn ei gyfraniadau. A'r flwyddyn y cyfododd yn ei gyfraniad at y weinidogaeth, llwyddodd yn annisgwyliadwy yn ei amgylchiadau tymhorol, a phriodolai ef ei hun y llwyddiant hwnw i ofal rhagluniaeth am dano mewn canlyniad iddo ymhelaethu yn y casgliad misol.
Yr oedd W. James yn ddyn o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, byth er adeg ei argyhoeddiad, a bu hyny yn gymhwysder mawr ynddo i fod yn flaenor eglwysig. Gweinidog yr eglwys a'i clywsai rai gweithiau yn cyfeirio at eiriau o'r Beibl a ddylanwadodd yn fawr arno yn ei dröedigaeth. Yn ystod ei gystudd olaf, cymerodd yr ymddiddan canlynol le