Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/329

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhoddai bob parch i weinidogion yr efengyl, y lleiaf fel y goreu o honynt, a hyny oblegid eu swydd a'u gwaith. Mawr fyddai ei ofal trwy y blynyddoedd am iddynt gael chwareu teg, trwy eu cludo yn ol a blaen yn y daith y Sabbath; a mawr oedd ei bryder amser agor y capel newydd, y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1885-ac efe ei hun yn ei wely-am fod y gweinidogion yn cael eu cludo a'u cydnabod am eu gwasanaeth. Un o'i ragoriaethau neillduol fel blaenor bob amser oedd, y byddai yn rhag-ofalu am bob peth a berthynai i'r achos. Meddyliai a chynlluniai yn barhaus am rywbeth i'w wneyd—disgyblu pan y byddai galw am hyny, ac adgyweirio pan y byddai eisiau adgyweirio. Ac ni chai casgliad byth fod ar ol heb ei wneuthur, a'i wneuthur yn ei amser. Tuag at roddi grym yn ei waith ac- yn ei swydd o flaenor, yr oedd ganddo gymeriad o'r tu cefn. Safai yn uchel yn ngolwg pawb, fel amaethwr a chymydog, ac- yr oedd teimlad anrhydeddus ynddo gyda golwg ar wneuthur tegwch rhwng gŵr a gŵr mewn masnach. Yr oedd fel Abram, yn esiampl i bawb yn y wlad am hyfforddi ei blant a thylwyth ei dŷ, a gorchymyn iddynt rodio yn ffordd yr Arglwydd. Bydd y dylanwad da a adawodd ar yr ardal lle yr oedd yn byw yn parhau yn ddiameu am hir amser. Yr oedd yn hollol hyderus am ei gyflwr yn ei gystudd olaf, Ond fel hyn y dywedai wrth un oedd yn ymweled âg ef wythnos cyn y diwedd: "Nid wyf yn mwynhau rhyw lawer ar hyn o bryd o ran hyny; pan yr oeddwn yn iach ac yn gallu gwneyd tipyn gyda chrefydd, y pryd hwnw y byddwn yn mwynhau pethau crefydd." Dyna yn hollol ddisgrifiad o'i holl fywyd-crefydd yn ei gwaith oedd ei grefydd ef. Bu farw Chwefror 16eg, 1885, yn 79 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn ymyl capel Maethlon.