Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i drin y byd ac i enill cyfoeth. Yr oedd yn gampus am redeg ceffyl mewn rhedegfa, ac yn hoff iawn o hyny. Ni byddai yr un flwyddyn yn myned heibio heb fod ganddo geffyl yn rhedeg. Nid yw hyn yn rhyfedd, oblegid y mae Tonfanau, y lle yr oedd yn byw, yn un o'r manau agosaf at y rhedfa, yr ochr arall i'r Afon Dysyni i Forfa Towyn, ar lan yr afon. Fel hyn y dywed Methodistiaeth Cymru am y tro: "Pan oedd ar ganol y rhedfa, efe a glywai y ceffyl oedd tano yn gruddfan yn dost, ac yn ddisymwth daeth y geiriau hyn i'w feddwl:—

Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod,
O'th flaen i'th boeni yn benaf penod.""

Ond y gwir ydyw, yr oedd ef wedi clywed y geiriau hyn yn cael eu hadrodd wrtho y diwrnod cynt, gan fachgen ieuanc oedd yn byw yn y Castell fawr, yr hwn a adnabyddid wedi hyny fel William Dafydd, Llechlwyd. Nid ydyw y geiriau, ychwaith, yn hollol gywir yn Methodistiaeth Cymru. Yr oedd Mr. Vaughan yn y Castell y diwrnod cynt yn prynu gwartheg, ac yn dweyd wrth y bachgen na allai ddyfod i'w ceisio dranoeth, ei fod yn myned i'r races. "Ydych chwi yn mynd i'r races?" ebe y bachgen. "Ydwyf, be sy' genyt ti yn erbyn, Will?" Ydych chwi ddim yn cofio," ebe yntau, "be ddeudodd y bardd,—

"Gwae a yro'r nifail gwirion
I ferwi o chwys heb fawr achosion,
Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod
Yn dyst i'w poeni'n dosta penod."

Modd bynag, mae yn sicr i'r geiriau hyn ddyfod i feddwl y gwr ar ganol y rhedfa, ac fe ddywedir iddo ymatal rhag curo yr anifail, a gadawodd iddo fyned i'r pen mor araf ag y mynai. Gadawodd yntau yr arferiad o redeg ceffylau am byth, a daeth yn fuan yn grefyddwr da, ac yn un o'r rhai goreu fel rhedegwr am goron y bywyd. Cymerodd yr amgylchiad hwn le yn bur agos yr un amser ag yr argyhoeddwyd Lewis Morris yn Ngwylmabsant Machynlleth, o gylch y flwyddyn 1789.